Graeanog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:25, 23 Ionawr 2024 gan Cyfaill Eben (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Mae Graeanog yn fferm sylweddol yn rhan uchaf plwyf Clynnog Fawr. Yn amlwg, mae’r enw’n dod o’r ffaith fod y tir yn dywodlyd ac yn llawn graean. Yn wir, mae’r holl gefnen rhwng y tir corsiog ar waelod y Bwlch Mawr rhwng llethrau Mynydd Bwlch Mawr a Mynydd Graig Goch yn dir graeanog sydd wedi cael ei gloddio er mwyn cynhyrchu agregau ers bron i ganrif. Mae’n amlwg fod y tir sych a oedd ychydig yn uwch na’r corsydd wedi denu ffermwyr ers miloedd o flynyddoedd ac mae olion tai a chaeau sydd wedi dyddio’n ôl dros 2000 o flynyddoedd wedi’u darganfod yno.[1]

Mae cofnodion ac achresi’n enwi Graeanog fel preswylfod uchelwyr yn y Canol Oesoedd. Roedd yn gartref Trahaearn Goch, Arglwydd Cymydmaen, ac un o hynafiaid teulu Cefnamwlch - a hynny tua ail hanner y 13g.[2] Yn gynharach na hynny, enwir Graeanog fel un o’r darnau o dir a roddwyd i sefydliad Clas ac Abaty Sant Beuno yng Nghlynnog. Yn wir, Graeanog yw’r cyntaf mewn rhestr hir o wahanol diroedd y clas, a dywedir ei fod wedi ei roi i sefydliad Beuno Sant gan y brenin Cadwaladr a fu farw yn y flwyddyn 664.[3] Nodir hyn mewn inspeximus (sef siarter i gadarnhau dogfen hŷn) a roddwyd gan frenin Lloegr, Iorwerth IV, a oedd yn teyrnasu rhwng 1461 a 1483. Rhaid bod yn ofalus iawn wrth ddyfynnu dogfennau o’r fath, gan nad oedd abatai canoloesol yn gweld dim byd o’i le mewn creu tarddiad ffug, ond teilwng, i’r tir yn eu meddiant. Mae’n amlwg, serch hynny, fod enw Graeanog yn hen iawn, ac yn enw ar dir a oedd yn deilwng o gael ei roi er gogoniant i Dduw neu i achub enaid y rhoddwr.[4] Un peth y gallwn fod yn bur sicr ohono yw’r ffaith fod y tir wedi pasio i goron Lloegr pan ddiddymwyd hawliau abaty Clynnog Fawr tua 1537. Byddai swyddogion y brenin yn gosod prydlesi ar yr holl diroedd eglwysig a feddiannwyd ac, erbyn diwedd yr 16g., byddai’r tiroedd hyn fel rheol wedi troi’n eiddo rhydd-ddaliadol i fonheddwyr.

Erbyn i ni sôn am yr 16g., felly, mae hanes Graeanog yn dechrau dod yn fwy sicr. Gwyddom fod merch o’r enw Elin, o deulu Graeanog, wedi priodi â Dafydd ab Ifan o’r Gadlys ym mhlwyf Llanwnda. Tad Elin oedd Gruffydd ap Gruffydd ap Meredydd Fychan.[5] Roedd ei chefnder, Morus ap Hywel ap Gruffydd ap Meredydd (a aned tua 1493) wedi cael ei gofnodi fel tyst mewn achos llys ym 1537.[6] Roedd yr Hywel hwn yn or-or-or-or-ŵyr i Trahaearn Goch. Ŵyr Morus oedd Robert ap Rhys Wynn, yr ydym yn gwybod ei fod yn byw yng Ngraeanog. Roedd yn un o fân fonheddwyr y cwmwd, yn fab-yng-nghyfraith sgweier Bodwrdda yn Llŷn, ac yn cael ei gyfrif yn un o feirdd bonheddig yr ardal yn ei gyfnod. Rhaid ei fod yn byw tua dechrau’r 17g., gan i’w fab farw ym 1636, ac yntau’n ŵr priod.[7]

Mab Robert ap Rhys Wynn y bardd oedd Rhys Wynn, a briododd â Jane Glynn, merch Plas Newydd, Llandwrog. Bu farw ym 1636, ac etifeddodd ei frawd Dafydd yr eiddo. Aeth ŵyr hwnnw, Randal Wynn, i drafferthion ariannol, a morgeisiodd ei eiddo i John Rowlands, sgweier Plas-y-Nant, Betws Garmon. Bu farw Randal heb adael etifedd - ei fab Robert yn marw’n ifanc ac yn ddi-briod, a’i ferch Jane heb briodi. Felly collodd y teulu eu tir, ond hefyd daeth y llinach i ben, llinach a honnwyd gan y teulu oedd yn mynd yn ôl trwy’r llinell wrywaidd yr holl ffordd i’r Arglwydd Rhys, a Hywel Dda o’i flaen ef.

Bu farw John Rowlands ym 1703 ac mae’n enwi Graeanog, ynghyd â sawl eiddo arall yng Nghlynnog, yn ei ewyllys.[8] Yn ei ewyllys mae’n nodi bod Randal Wynn eisoes wedi marw. Yn y man, aeth llawer o eiddo Plas-y-nant i ddwylo teulu Bulkeley, Baron Hill, Biwmares, a hynny trwy briodas Emma Rowlands â James, 6ed Arglwydd Bulkeley ym 1749.[9] Gwerthodd ei or-ŵyr, Syr Richard Bulkeley Williams Bulkeley, ei dir ym mhlwyf Clynnog Fawr ym 1832, sef ystadau bychain Bachwen yn cynnwys New Inn yng Nghlynnog, Coch-y-big. Melin Faesog a Henbant; ac ystad Graeanog, yn cynnwys Bryn-y-gro, Melin Bryn-y-gro a dwy fferm dros y ffin ym mhlwyf Llanllyfni, sef Tyddyn Hen a’r Tyddyn y Berth. Roedd yr holl eiddo hwn wedi bod yn cael ei drin fel un ystâd ers o leiaf 1769.[10]

Prynodd Owen Jones Ellis Nanney ffermydd Graeanog, Bryn-y-gro, Henbant a thiroedd cyfagos rywbryd rhwng 1832 ac 1839.[11] Roedd hwn yn bryniant doeth a synhwyrol ganddo gan fod ffermydd cyfagos yn eiddo iddo eisoes, ac wedi eu hetifeddu ganddo fel disgynnydd i hen deulu Ellis, Bodychen, sydd yn ffinio â Graeanog. Bu Graeanog yn eiddo i’w deulu hyd yr 20g. Ym 1903, prynwyd Graeanog gan y Cyrnol Owen Lloyd Jones Evans, Broom Hall, ynghyd â ffermydd cyfagos Bodychen (De), Cefn Graeanog, Llwvngwanadl Isaf, Henbant Mawr, Llwyngwanadl Uchaf, a Ffridd-y-Buarth neu Ffridd Pen-y-Llygad, sef 851 erw i gyd. Y pris oedd £12,200. Roedd llawer o’r tiroedd hyn wedi eu gwerthu tua 1889 gan Nanney, a’r adeg honno John Owen oedd y prynwr.[12]

Cefn Graeanog yw enw’r gefnen lle saif ffermdy Graeanog ac mae fferm arall (o’r enw Cefn Graeanog) yno hefyd. Nid oes sôn, fodd bynnag, am y fferm honno ar fap degwm y plwyf dyddiedig 1842, ac felly mae’n amlwg felly bod y fferm wedi ei rhannu rywbryd wedi hynny. Un o ffermydd mwyaf y fro oedd Graeanog, yn ymestyn dros 398 o erwau - er bod 52 erw yn gorstir.

Yn ddigon arferol, wedi i Randle Wynn forgeisio Graeanog rywbryd tua 1690, tenantiaid oedd yn ei ffermio. Robert Thomas a Robert Roberts, porthmon (ac efallai mab i Robert Thomas) oedd yn byw yno ym 1794.[13]

Tenant arall a enwir yn y cofnod dogfennol yw Mary Parry a oedd yn weddw pan fu farw ym 1829 ac (o bosibl) yn gyn-wraig (neu’n ferch-yng-nghyfraith) i Robert Thomas, gan fod mab ganddi o’r enw Robert Roberts. Gadawodd swp sylweddol o nwyddau ac anifeiliaid ar ei hôl, gwerth £197, ynghyd â’r swm o £245 a oedd yn ddyledus iddi. Mae rhestr o’i heiddo’n dangos natur gymysg ei ffermio: tarw, 7 buwch, 7 anifail blwydd a 9 llo, 6 o geffylau, 80 o ddefaid, digonedd o wair, ŷd, tatws, ieir a gwenyn ac offer yn cynnwys aradr. .<LlGC, Dogfennau Profiant Bangor, B/1829/75.</ref>

Ym 1842, Ellen Roberts, gweddw 45 oed gyda phedwar o blant, oedd y tenant; a’r Is-gyrnol Owen Jones-Ellis-Nanney o'r Gwynfryn, Llanystumdwy oedd y perchennog. Roedd gŵr Ellen Roberts wedi marw flwyddyn ynghynt.<LlGC, Dogfennau Profiant Bangor, B/1841/73.</ref> Erbyn 1851, roedd eu mab John (22 oed) yn helpu ei fam gyda’r fferm ac roeddynt hefyd yn cadw pedwar o weision fferm. Yr un oedd y sefyllfa ym 1861, ac yn anffodus nid yw cofnod ar gyfer Graeanog ar gael yn y cyfrifiad. Erbyn 1881 roedd dau beth wedi digwydd: clywir sôn am fferm Cefn Graeanog yn ogystal â Graeanog ei hun, y ddwy fferm tua 200 erw o faint; a theulu newydd oedd yn ffermio Graeanog, sef David Hughes, Ellin ei wraig a’u plant – ac felly yr oedd pethau ym 1891 hefyd. Owen Roger Owen oedd y ffarmwr ym 1901 a 1911.[14]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Manylion am y cloddio diweddar sydd yn dangos hyn, ac yn disgrifio’r ardal yn ddaearegol yn fanwl, i’w cael yn Mason, M. A.,gol. (1998), The Graeanog Ridge: The Evolution of a Farming Landscape and its Settlements in North-West Wales, Cambrian Archaeological Association. [1]
  2. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.169
  3. R.T. Jenkins (gol.), Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Llundain, 1953), t.56
  4. Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696 t.257 (Llundain, 1838)
  5. W. Gilbert Williams, Hen Deuluoedd Llanwnda, IV: Teulu’r Gadlys (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon), Cyf.7 (1946), tt.20-1
  6. W. Gilbert Williams, An Episode in the History of Clynnog Church (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon), Cyf.10 (1949), t.104
  7. Tom Parry, Sir Gaernarfon a Llenyddiaeth Gymraeg, (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon), Cyf.3 (1941), t.49; J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.230
  8. LlGC, Papurau Llanfair a Brynodol D635
  9. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt.42-3
  10. Archifdy Caernarfon, X/Poole/3510
  11. Archifdy Caernarfon, XM1786/21
  12. Y Werin, 28.12.1889, t.2; Caernarvon and Denbigh Herald, 14.8.1903, t.5
  13. LlGC, Casgliad Arthur Ivor Pryce 734
  14. Cyfrifiadau plwyf Clynnog Fawr, 1841-1911