Gofaint Aberdesach

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:05, 20 Mawrth 2021 gan Cyfaill Eben (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Go brin y byddai unrhyw un yn awyddus i godi gefail gof ar draeth Aberdesach y dyddiau hyn, ond roedd yno un dros dri chan mlynedd yn ôl, a honno bron ar fin y don. Medrwn ddychmygu'r hen geffylau gwedd gorthrymedig yn cael rhuglo eu bacsiau drwy'r tonnau iachus cyn troi am adra ar ôl cael eu pedoli gan y gof.

Bu teulu o ofaint yn yr efail am o leiaf bum cenhedlaeth, yn dechrau gyda'r cofnod cyntaf hwn yng nghofnodion Eglwys Clynnog: "William Williams, Smith, A'desach" yn priodi ar 24 Mai 1710 â Gaynor Thomas. Ganwyd mab iddynt ym 1713, sef William Williams arall, a phriododd yntau ag un Gainor Jones ym 1739. Mae'n bosib iddo ef farw'n sydyn, gan nad oes ewyllys iddo, ond fe dystia amodrwymiad yr ysgutor (neu "bond") a'r rhestr o'i eiddo fod ganddo fywoliaeth bach eitha taclus yn ôl safonau'r cyfnod hwnnw:

1 Horse, saddle and bridle        £5-00
4 Cows                            £15-00
28 Sheep                          £5-12
Implements and Household Stuff    £19-4
Cyfanswm                          £44-16  (hynny ym 1794)

Daeth ei fab Hugh Williams i'w ddilyn ef. Wedyn daeth ei fab yntau, David Hughes. Priododd o ag Ann Roberts a oedd 12 mlynedd yn hŷn nag ef, ac mae carreg fedd iddynt ym mynwent Clynnog, ar fin y llwybr sy'n arwain i lawr at yr eglwys o'r porth. Daeth eu mab hwythau, William Hughes, wedyn yn of yn ôl troed ei dad gan fod y bumed genhedlaeth i weithredu'r grefft yn Aberdesach.

Ond nid oedd y merched yn fodlon gadael y mwg a'r gwreichion chwaith, a chawn Mary Hughes (merch i David ac Ann, a anwyd ym 1807) yn priodi â gof arall, sef Robert Williams (geni 1804) o Bandy Rhydygwystl, Y Ffôr. Fe wnaethant hwy ymgartrefu wedyn yn yr Hen Efail ger yr hyn a ddaeth i gael ei alw'n ddiweddarach yn Pen Lôn Trefor. Yn ôl disgynyddion iddo heddiw, Robert Williams ddaeth yn of cyntaf Chwarel yr Eifl yn Nhrefor er nad oes unrhyw sicrwydd pryd yn union y dechreuodd weithio yno.

Nid oes dim ar ôl bellach o'r hen efail a'r adeiladau cysylltiedig â hi yn Aberdesach. Ond yr hyn sy'n aros yw'r tir. Roedd gan y dynion yma bum acer o dir o gwmpas yr efail, pump o gaeau fel hancesi poced bach twt, a phob un ohonynt wedi ei amgáu â chloddiau cerrig cadarn. Eiddo'r Arglwydd Stanley, stad Penrhos, Caergybi, oedd y tir yma bryd hynny, ac mae enwau'r caeau bach ar gael, sef: Cae Glan Môr, Cae Lôn Bach, Cae Mawr a Cae Coch. Tybed ai'r gofaint a gododd y waliau hyn, ynteu a oeddent yno ynghynt. Mae'n debyg y byddai'n rhaid cael arbenigwr ar gloddiau cerrig i farnu hynny. Mae'n debyg i'r gofaint allu prynu'r caeau gan Yr Arglwydd Stanley, gan iddynt hwy eu gwerthu'n ddiweddarach trwy hysbyseb papur newydd. Tybed pwy sy'n berchen ar y caeau heddiw ac a ydi'r hen enwau arnynt yn dal i gael eu defnyddio? Byddai'n ddifyr gwybod.[1]


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Seiliwyd y darn uchod ar waith ymchwil i hanes y teulu a wnaed gan Beryl Griffiths, Trefor ac Ann Zanier, Clynnog - disgynyddion i'r gofaint.