Fanny Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:48, 2 Gorffennaf 2022 gan Cyfaill Eben (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search
Fanny Jones

Roedd Fanny Jones yn wraig i'r pregethwr nodedig John Jones, Tal-y-sarn, a hi oedd yn ei gynnal i raddau trwy gadw masnachdy, Nantlle House yn Nhal-y-sarn, tra byddai ef i ffwrdd yn pregethu - am wythnosau weithiau. Fe'i ganed yn Frances Edwards, ac fe briododd â John Jones tua 1823. Nid oedd gan John Jones fawr o grap ar yr iaith fain, yn groes i Fanny, ac roedd hi hefyd yn weddol hyddysg mewn materion busnes, ac arni hi y dibynnai llwyddiant y siop. Mae cyfrifon y siop 1826-1853 ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol. Roedd Fanny Jones yn un o'r ychydig ferched yr ysgrifennwyd cofiant amdanynt yn y 19g, a thrwy hynny diogelwyd llawer o wybodaeth amdani.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]

Darllen Pellach[golygu]

Owain Llewelyn Owain, Cofiant Mrs. Fanny Jones, gweddw y diweddar Barch. J. Jones, Talysarn (1907).