Evan Richardson

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Roedd Evan Richardson (1759-1824) yn weinidog amlwg gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a bu'n cadw ysgol bwysig yng Nghaernarfon am flynyddoedd.

Un o ogledd Sir Aberteifi oedd Evan Richardson, yn fab i saer maen o'r enw Rhisiart Morys Huw o'r Bryngwyn Bach yn Llanfihangel-genau'r-glyn. Roedd ganddo gysylltiadau teuluol hefyd â Lewis Edwards, a ddywedodd fod Richardson yn "ewythr" iddo. Bwriedid yn wreiddiol i Evan Richardson fynd i weinidogaeth yr Eglwys Anglicaniadd ac i'r perwyl hwnnw aeth yn ddisgybl i'r ysgol enwog a gedwid yn Ystrad Meurig gan Edward Richard. Fodd bynnag, daeth dan ddylanwad y clerigwr Methodistaidd, Daniel Rowland o Langeithio, a chefnodd ar yr Eglwys a bwrw ei goelbren gyda'r Methodistiaid.

Daeth i Ogledd Cymru i ddechrau fel "cyfaill" i bregethwr teithiol, ond dechreuodd bregethu ei hun oddeutu 1781 ac ar anogaeth Robert Jones, Rhos-lan, agorodd ysgol ym Mrynengan ym 1782 - roedd un o achosion cynharaf y Methodistiaid yn yr ardal eisoes wedi ei sefydlu ym Mrynengan. Yn dilyn cyfnodau pellach yn cadw ysgol ym Mhwllheli ac yn Llangybi yn Eifionydd, symudodd Richardson i gadw ysgol yng Nghaernarfon ym 1787. Bu'r ysgol hon yn un bwysig iawn o ran meithrin pregethwyr Methodistaidd ei dydd a cheir llawer o gyfeiriadau ati yn eu cofiannau. Ymysg ei disgyblion bu John Elias a (Syr) Hugh Owen. Rhoddodd Richardson y gorau i'r ysgol tua 1817 pan ddechreuodd ei iechyd dorri ac fe'i cymrwyd drosodd gan Fethodist amlwg arall, William Lloyd.

Chwaraeodd Evan Richardson ran flaenllaw iawn yn natblygiad Methodistiaeth yn nhref Caernarfon. Denodd rai o bregethwyr amlycaf y Methodistiaid i'r dref i gynnal oedfaon, yn eu plith David Jones, Llan-gan, a fu ar daith yno ym 1786. Yn dilyn llwyddiant cyfarfodydd awyr agored i ddechrau, dechreuwyd cynnal cyfarfodydd mewn llofft yn Nhan-yr-allt ar Ffordd Bethel, ac ym 1793 codwyd capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn y dref yn "Mount Pleasant", a hwn oedd rhagflaenydd capel Moreia (1826). Roedd Richardson ymysg y garfan gyntaf a ordeiniwyd i waith y weinidogaeth gan y Methodistiaid yn Y Bala ym 1811. Bu farw 29 Mawrth 1824 yn 65 oed a'i gladdu ym mynwent eglwys Llanbeblig.[1]

Ar yr olwg gyntaf, gellid honni mai ychydig o gysylltiad oedd gan Richardson ag Uwchgwyrfai ond eto wrth graffu'n fanylach, mae'n amlwg fod ganddo gryn ddylanwad ar ddatblygiad cynnar Methodistiaeth Galfinaidd yn y cwmwd, ac yr oedd yn ymddiriedolwr ar o leiaf un o gapeli'r fro. Bu'n pregethu'n gyson yn y fro. Fe oedd y pregethwr cyntaf yn agoriad swyddogol Capel Bryn'rodyn (MC).[2]

Cawn olwg ar ei gymeriad a'i arddull mewn hanesion yn llyfr William Hobley pan sonnir am ddisgyblu aelodau diffygiol yng Nhgapel Llanllyfni'r enwad:

Rhydd yr Asiedydd rai enghreifftiau o ddisgyblaeth yn yr eglwys. Ar achosion felly byddai pregethwr yn gyffredin yn cynorthwyo. Yr oedd Evan Richardson yma un tro yn diarddel hen wraig o ochr y mynydd. Wedi’r diarddeliad, yn ôl yr arfer y pryd hwnnw, awd â hi allan ar ganol y moddion. Eithr nid cynt yr oedd hi allan drwy un drws nad dyma hi i mewn drwy’r llall, gan gyfarch Evan Richardson, “Bydd drugarog wrth dy gyd-greadur.” Eithr allan y bu raid myned drachefn. Wrth ymddiddan â’r cyfeillion yn y seiat, ebe Evan Richardson wrth ŵr oedd newydd ei wneud yn oruchwyliwr yn y chwarel, “Byddai’n well iti gymeryd carreg yn dy big rhag ofn iti ehedeg yn rhy uchel.” [3] 

Cysylltiad llai disgwyliedig efallai yw'r ffaith ei fod yn un o brydleswyr Melin Bontnewydd ac mae'n amlwg ei fod wedi buddsoddi llawer o'i arian yn y fenter honno. Pan fu farw gwnaed rhestr o'i eiddo, yn cynnwys ei ddillad (gwerth £5); ei lyfrgell o lyfrau (gwerth £20); ei ddodrefn ac ati (gwerth £30); dyledion a buddsoddiadau amrywiol (gwerth £40). Nodwyd yn y ddogfen honno hefyd fod ganddo bumed siâr ym mhrydles Melin Bontnewydd, cyfran gwerth £100.[4]

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, (Llundain 1953), t.804.
  2. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf. 1, (Caernarfon, 1910 ), t.154
  3. R. Jones (Asiedydd), Y Drysorfa, 1885; W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.123
  4. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Dogfennau Profiant, B/1825/104/W ac I