Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:47, 10 Chwefror 2022 gan Cyfaill Eben (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Ganwyd Ellis Roberts, (1827-1895) yn Llwyn-y-gwalch, ger Y Groeslon, yn drydydd mab i Morris Roberts (Eos Llyfnwy) a Margaret ei wraig - ac yn ŵyr i Robert Morris (Robin Ddu Eifionydd). Bu'n felinydd yn helpu ei dad am 12 mlynedd nes iddo gyrraedd 23 oed pan aeth am ryw hanner blwyddyn i Ysgol Eben Fardd yng Nghlynnog Fawr ac o'r fan honno i Goleg Hyfforddi Caernarfon, coleg dan nawdd yr Eglwys. Bu'n cadw ysgol yn Y Waunfawr, Arfon, a Llwyn-y-gell, Ffestiniog, hyd 1862. Priododd ysgolfeistres Llwyn-y-gell, Esther Mary Roberts, ym 1854 a chafodd y ddau ferch a thri mab a aeth ymlaen i gael eu hordeinio yn yr Eglwys Anglicanaidd. Cafodd Ellis Roberts ei ordeinio'n ddiacon yn Esgobaeth Llanelwy ym 1862. Bu'n gurad yn Rhosymedre, yn ficer Llanfihangel Glyn Myfyr, ac yn olaf yn ficer Llangwm (oll yn Sir Ddinbych), a bu farw yn Llangwm ym 1895.[1].

Fe ystyrir ei waith llenyddol bellach yn drwm ac anhygyrch i'r darllenydd modern, ond bu'n fardd gweddol lwyddiannus a chynhyrchiol. Ysgrifennodd Awdl y Sabboth (1856); Awdl Maes Bosworth (1858) ac ambell i waith Saesneg, ymysg pethau eraill. Bu'n awdur rhyddiaith hefyd ac yn olygydd papur yr Eglwys Sefydliedig yng Nghymru, Yr Haul. Mae'r Cydymaith yn canmol ei "ganu natur swynol".[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig, tt.810-11
  2. Meic Stephens (gol),Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, (Caerdydd, 1986), t.507