Elernion (trefgordd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:34, 28 Rhagfyr 2020 gan Cyfaill Eben (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Saif Elernion, a fu am ganrifoedd yn drefgordd bwysig a chanolbwynt yr ardal, mewn pant dymunol a chysgodol ar lan Afon Tâl ar gyrion pentref Trefor.

Ceir y cyfeiriad cyntaf at Elernion yn y ddogfen Record of Caernarvon 1352 - gweler y cyfieithiad Cymraeg o'r ddogfen Ladin wreiddiol hon yn Cof y Cwmwd, lle mae adran yn ymwneud ag Elernion. Bryd hynny roedd yn drefgordd (township) gyffelyb i drefgorddau Cymreig eraill yr Oesoedd Canol ac yn sicr roedd wedi bodoli yn y ffurf honno ers blynyddoedd maith cyn arolwg 1352. Roedd yn cynnwys "gwely" rhydd (gwely yn yr ystyr hwn oedd yr hen uned "lwythol" Gymreig o ddaliadaeth tir) ac roedd y gwely hwn ym meddiant nifer o fân rydd-ddeiliaid yr oedd arnynt rai tollau i'r Tywysog. A'r Tywysog hwnnw ym 1352 oedd mab hynaf brenin Lloegr, sef Edward, a elwid y Tywysog Du. Roedd y mân rydd-ddeiliaid hyn hefyd yn berchen ar ddwy felin yn nhrefgordd Elernion. Nododd yr arolygwyr a luniodd y Record fod rhai o'r rhydd-ddeiliaid hyn hefyd wedi fforffedu eu tir i'r Tywysog am gyflawni rhyw droseddau neu'i gilydd nas enwir. Beth bynnag, nodir fod peth o'r tir yn y gwely rhydd yn dir escheat- sef wedi'i fforffedu. Ond er mai rhydd-ddeiliaid oedd mwyafrif trigolion y drefgordd, roedd yno beth tir caeth a weithid gan daeogion, a oedd hefyd yn eiddo i'r Tywysog. O fewn y drefgordd yn ogystal roedd darn o rostir agored - y Ffridd Fawr - a oedd hefyd yn eiddo i'r Tywysog. Yn ganolbwynt i'r drefgordd roedd tŷ neuadd canoloesol, a safai mae'n fwy na thebyg lle mae'r tŷ presennol. Byddai'r tir o amgylch y plasdy yn dir agored bron i gyd ac yma ac acw ceid bythynnod bychain lle trigai'r rhydd-ddeiliaid a'u teuluoedd. Byddai gan y rhydd-ddeiliaid hyn leiniau hirion o dir bob un i'w aredig a'i drin - a cheir atgof o'r dull hwn o amaethu o hyd yn enw fferm Lleiniau Hirion gerllaw Elernion. Roedd yn gymdeithas ddigon cyntefig yn ei hanfod a bron yn gwbl hunangynhaliol gydag ychydig iawn o newid yn digwydd o un genhedlaeth i'r llall.

Mae'n debyg fod yr holl rydd-ddeiliaid yn y drefgordd ym 1352 yn perthyn i'w gilydd ac yn aelodau o'r llwyth a ddisgynnai o sefydlydd y "gwely" yn Elernion. Yn y Record gelwir y gwely rhydd yn "gwely Cynddelw ap Llowarch". Ef mae'n debyg oedd y cyntaf i ymsefydlu'n barhaol ar y tir gyda'r tir yn cael ei rannu ymysg ei ddisgynyddion yn unol â'r drefn Gymreig. Mae'n amhosib pennu pryd yn union yr ymsefydlodd Cynddelw yno ond mae'n debygol i'w dylwyth fod yno am rai canrifoedd cyn y Record of Caernarvon ym 1352.

Am ganrifoedd parhaodd trefgordd Elernion i weithredu fel hyn, ond erbyn dechrau'r unfed ganrif ar bymtheg, ac yn arbennig ar ôl pasio'r Deddfau Uno (a oedd yn uno Cymru'n wleidyddol â Lloegr) yn y 1530au, roedd newidiadau mawr yn digwydd yn y drefn ddaliadaeth tir yng Nghymru gyda'r hen arfer o rannu'r etifeddiaeth yn gyfartal rhwng y meibion yn dod i ben a'i disodli gan drefn lle roedd y mab hynaf yn etifeddu'r cyfan. Roedd hwn hefyd yn gyfnod pan oedd y stadau mawr yn dechrau ymffurfio. Felly hefyd yn hanes Elernion, pryd y gwelwyd y mân ddaliadau tir o fewn y drefgordd yn cael eu prynu, neu eu meddiannu, gan deuluoedd a oedd yn dod i amlygrwydd yn y gymdogaeth. Erbyn canol y 16g roedd darnau cynyddol o dir yn Elernion a'r cyffiniau yn dod i feddiant Glyniaid Glynllifon a Phlas Newydd ac roedd ymgiprys cynyddol rhyngddynt â'r rhydd-ddeiliaid wrth i'r rheini weld y teulu pwerus yma'n bygwth eu buddiannau. Daliodd rhai o'r rhydd-ddeiliaid eu gafael ar eu mân ddaliadau am flynyddoedd ond yn y bôn roedd y frwydr hon yn erbyn yr ysweiniaid tiriog cefnog hyn yn un allent ei hennill mewn gwirionedd. Fodd bynnag, ceir gwrit dyddiedig 18 Gorffenaf 1548 yn galw ar reithgor arbennig o gymdogaeth Elernion i ddod gerbron yr Ustus Heddwch lleol i ystyried achos fod Robert ap William ap Ieuan ap Tudur o Elernion, iwmon, ac eraill, wedi meddiannu darn o dir a elwid yn Erw Pwll March yn Elernion, a oedd yn eiddo i William Glyn o Lynllifon. Drachefn, bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, ceir cofnod yn nogfennau Llys y Chwarter Sesiwn yn honni fod Rhys ap Ieuan ap Madog, ynghyd â deuddeg o ddynion eraill, yn bennaf o Elernion, wedi ymgynnull yn anghyfreithlon yng Nghlynnog ar 5 Ionawr 1563 ac wedi ymosod ar ddyn y credir ei fod yn un o weision Glynllifon. Ar 15 Rhagfyr yr un flwyddyn wedyn fe wnaeth llafurwr o Elernion dorri i mewn i dŷ yng Nghlynnog a dwyn dau bwys o ddefnydd gwerth deg ceiniog. Fe'i dygwyd gerbron y Llys Chwarter a'i ddedfrydu i dreulio cyfnod yn y rhigod (pillory) gyda'i glust wedi'i hoelio i'r pren.

Parhaodd Elernion i gael ei disgrifio fel "trefgordd" yng nghofnodion swyddogol Sir Gaernarfon mor ddiweddar â'r ail ganrif ar bymtheg, er ei bod wedi colli nodweddion trefgordd Gymreig bron yn llwyr erbyn hynny ac wedi troi'n fferm fawr neu stad fechan mewn gwirionedd. Y ddau deulu amlycaf yn ei hanes yn yr 17g oedd Glyniaid Glynllifon a Bryngwydion a'r Evansiaid, a oedd yn ddisgynyddion teulu stad Talhenbont yn Eifionydd. Cafwyd priodasau buddiol i'r ddwy ochr rhwng y teuluoedd hyn. Bu Richard Evans, Elernion, yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1625 - arwydd sicr o'i statws ymysg yr uchelwyr tiriog. Mae'n bosib mai ef a wnaeth lawer o'r gwaith o ailadeiladu'r hen dŷ neuadd canoloesol yn blasdy carreg cadarn gyda'i simneiau tal a nodweddai dai diwedd y cyfnod Elisabethaidd a dechrau'r cyfnod Stiwartaidd dilynol. Nid oedd gan y Richard Evans hwn fab a phriododd ei unig ferch a'i aeres â William Glynne o Lynllifon, a thrwy'r briodas hon mae'n debyg y llwyddwyd i grynhoi hen drefgordd Elernion yn un stad gryno. Mae'n debyg i William Glynne a'i wraig fyw ym mhlas Elernion ac efallai iddynt ychwanegu at y tŷ. Bu William yn Uchel Siryf ym 1634 a'i fab Richard ym 1665. Fel mwyafrif uchelwyr Sir Gaernarfon mae'n debyg iddynt gefnogi achos y brenin yn Rhyfel Cartref Lloegr, er bod tystiolaeth i filwyr y Weriniaeth fynnu llety yn Elernion ar un adeg - yn groes i ddymuniadau'r perchennog mae bron yn sicr.

Daeth cangen Glyniaid Elernion i ben yn y ddeunawfed ganrif. Yr olaf ohonynt oedd Ellen Glynne, a sefydlodd yr elusendai yn Llandwrog sy'n dwyn ei henw o hyd. Ar ei marwolaeth aeth Elernion yn eiddo i'w chyfnither, Catherine Goodman, a oedd yn ferch i fasnachwr o Fiwmares. Priododd Catherine wedyn â William Wynne o stad Y Wern, Penmorfa. Gosodwyd Elernion i nifer o wahanol denantiaid yn ystod y 18g. Bu Richard Nanney, rheithor Clynnog a phregethwr grymus a oedd yn gwyro at y Methodistiaid, yn byw yno am gyfnod yn nechrau'r 18g ac yn ôl yr Asesiad Treth Tir y tenant ym 1770 oedd un John Griffith. Ym 1785 gwerthwyd Elernion, ynghyd â fferm Penllechog gerllaw (lle roedd hefyd un o felinau'r hen drefgordd), gan stad y Wern i stad y Weirglodd Fawr (Broom Hall yn ddiweddarach), a ddaeth yn un o stadau mwyaf Eifionydd erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. [1][2]

Ym 1950 prynwyd fferm Elernion gan Charles S. Darbishire, Plas yr Eifl, Trefor. Penodwyd beiliff i ofalu am y fferm ac, ysywaeth, cafodd yr hen dŷ o'r unfed a'r ail ganrif ar bymtheg ei dynnu i lawr i bob pwrpas a'i foderneiddio'n sylweddol. Ers blynyddoedd bellach mae'r tŷ wedi ei rannu'n ddwy uned ac oddeutu deg mlynedd ar hugain yn ôl daeth y fferm i ben fel uned amaethyddol gyda'r tir yn cael ei rannu a'i werthu i wahanol berchnogion newydd.


Cyfeiriadau

[1] Gwilym Owen, Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl, (Penrhyndeudraeth, 1972), tt.12-16. Seiliwyd llawer o'r sylwadau uchod ar wybodaeth am Elernion (yn Saesneg) a anfonwyd at Mr a Mrs Darbishire, Plas yr Eifl, Trefor gan W. Ogwen Williams, cyn archifydd Sir Gaernarfon a darlithydd yng Nholeg y Brifysgol, Aberystwyth. [2] Gweler hefyd, Colin A. Gresham, Eifionydd, (Gwasg Prifysgol Cymru, 1973), t.134.