Eithinog (trefgordd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:42, 1 Chwefror 2021 gan Heulfryn (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Eithinog oedd un o ddwy drefgordd plwyf Llanllyfni. Roedd ei ffiniau'n fras rhwng Afon Llyfni i'r gorllewin o'r eglwys hyd at ffiniau plwyfi Clynnog-fawr a Llandwrog. Hyd heddiw, ceir tair fferm yn rhannu'r enw Eithinog yn y darn hwnnw o blwyf Llanllyfni.

Cyn ffurfio plwyfi yn y 16g., Eithinog oedd y rhaniad gweinyddol yn y Canol Oesoedd, ac yno ceid Melin Eithinog, melin yr arglwydd lleol - ac ar ôl 1284, melin tywysog Gogledd Cymru. I'r felin honno y gorfodid tenantiaid yr arglwydd dros ardal helaeth o Uwchgwyrfai i fynd â'u grawn i gael ei falu, yn ôl Stent Uwchgwyrfai 1352 a dogfennau eraill.

Mae Stent 1352, sef rhywbeth tebyg i Lyfr Domesday yn Lloegr, yn rhestru daliadau tir, tenantiaid a'r trethi a dyletswyddau a oedd arnynt. Lladin oedd y ddogfen wreiddiol, ac fe gyhoeddwyd ym 1838 dan deitl Record of Caernarvon. Dyma, felly, sefyllfa'r drefgordd yn y flwyddyn honno. Mae nifer o dermau technegol nad oedd yn ddoeth ceisio eu cyfieithu, a cheir esboniad ohonynt ar dudalen Stent Uwchgwyrfai 1352. Isod, ceir cyfiethiad gweddol rydd o'r Lladin wreiddiol i'r Gymraeg:

EITHINOG
Yn y drefgordd hon mae un Gwely a elwir Gwely Gweheleth. Ac etifeddion hon yw Ieuan ap Griffith a Gwilym ap Cuhelin ar eraill. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 40c.
Cyfanswm blynyddol: 13s. 4c.
Ac mae arnynt ddyletswydd mynychu melin yr arglwydd Dywysog yn yr un drefgordd. Ac mae ar y pedwar gwely uchod ddyletswydd mynychu [llysoedd] y sir a’r hwndrwd os a.y.b. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae yn yr un Gwely dair bufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Llywelyn ap Bleddyn. Ac arferai dalu ym mhob tymor o’r pedwar tymor uchod 6½c. a gynhwysir yn y 40c. uchod. Ac y tir hwnnw sydd newydd gychwyn cael ei amaethu [telir] adeg gwyliau’r Pasg a Sant Mihangel 4s. 8c.
Cyfanswm blynyddol:4s. 8c.
Mae’r tir siêd hwnnw’n dal yn nwylo’r arglwydd oherwydd diffyg tenant. Ac yn yr un drefgordd y mae taeogion yr Arglwydd Dywysog, sef Dafydd ap Einion, Adda ap Gronw, Meredydd ap Cynddelw, Iorwerth Ager, Adda Ddu ap Adda, Einion Was Da ac Adda ap Dafydd ap Adda, yn byw yn y drefgordd hon. Ac maent [yn dal eu tir] dan amodau tref gyfrif. Ac maent yn talu yn mhob un o’r pedwar tymor 55s. 4c.
Cyfanswm blynyddol: £11.16c. 
Ac mae arnynt ddyletswydd mynychu melin yr arglwydd yn yr un drefgordd. Ac maent yn talu Cylch Rhaglaw. Dywedwyd y bu [dyletswydd ar y tenantaiaid] i wneud gwaith ar y felin uchod yn amser y Tywysogion Cymreig. Ac fe ddywedwyd fod hwn yn cael ei brisio yn awr o fewn y 55s. 4c., fel mae’n cael ei ddangos yn yr hen stent. Gwelir hyn o’r stent. Ac maent yn talu bob blwyddyn ar adeg Gŵyl Sant Mihangel 2s. tuag at waith y rhai a elwir yn Gymraeg yn “greorion” sydd yn gofalu am anifeiliaid gweithio’r arglwydd.
Cyfanswm blynyddol: 2s.
Ac maent yn cario nwyddau’r arglwydd Dywysog gyda dyn a cheffyl a logir am 2c. y dydd. Ac maent yn talu hanner marc o ebediw ac amobr fel y bo’n ofynnol.
Cyfanswm blynyddol: £11 19s. 4c.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

.

  1. Registrum Vulgariter Nuncupatum"The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838)