Dwyfor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:41, 4 Rhagfyr 2017 gan Heulfryn (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Dwyfor yw'r enw a roddwyd ar ardal llywodraeth leol a ddaeth i rym ym 1974, pan ffurfiwyd Cyngor Dosbarth Dwyfor. Tiriogaeth y cyngor hwnnw oedd Llŷn ac Eifionydd a hefyd plwyfi neu gymunedau Clynnog-fawr a Llanaelhaearn (gan rannu'r Uwchgwyrfai hanesyddol rhwng Arfon ac ardal newydd Dwyfor. O 1996 ymlaen, cadwyd yr un ardal fel rhaniad gweinyddol Cyngor Gwynedd.

Ni fu erioed cyn hynny tiriogaeth a enwyd Dwyfor - enw afon yw Dwyfor, sy'n llifo o lethrau deheuol Mynydd Cwm Silyn uwchben Cwm Pennant i'r môr yn Llanystumdwy, i gyd yng nghwmwd Eifionydd. Mae ei chwaer afon, y Ddwyfach, fodd bynnag, yn tarddu yn y Seler Ddu, ger Hengwm ym mharthau uchaf plwyf Clynnog-fawr, cyn llifo heibio i bentref Pant-glas.