Dwyfor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:04, 27 Mawrth 2022 gan Cyfaill Eben (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Dwyfor yw'r enw a roddwyd ar ardal llywodraeth leol a ddaeth i rym ym 1974, pan ffurfiwyd Cyngor Dosbarth Dwyfor. Tiriogaeth y cyngor hwnnw oedd Llŷn ac Eifionydd a hefyd plwyfi neu gymunedau Clynnog-fawr a Llanaelhaearn (gan rannu'r Uwchgwyrfai hanesyddol rhwng Arfon ac ardal newydd Dwyfor). O 1996 ymlaen, cadwyd yr un ardal fel rhaniad gweinyddol Cyngor Gwynedd.

Ni fu erioed cyn hynny diriogaeth a enwyd Dwyfor - enw afon yw Dwyfor, sy'n llifo o lethrau deheuol Mynydd Cwm Silyn uwchben Cwm Pennant i'r môr yn Llanystumdwy, i gyd yng nghwmwd Eifionydd. Mae ei chwaer afon, y Ddwyfach, fodd bynnag, yn tarddu yn y Seler Ddu, ger Hengwm ym mharthau uchaf plwyf Clynnog-fawr, cyn llifo heibio i bentref Pant-glas.