Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Dolydd"

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search
 
(Ni ddangosir y 8 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Treflan fechan ar lan Afonydd Carrog a Gwyled sy'n cwrdd dan Bont Dolydd, ac sydd ar yr hen ffordd dyrpeg (A487) rhwng y [[Bontnewydd]] a'r [[Groeslon]] yw'r '''Dolydd'''. Saif ar y ffin rhwng plwyfi [[Llanwnda]] a [[Llandwrog]]. Cafwyd yr enw o fferm Dolydd Byrion oedd i'r dwyrain o'r ffordd, ac arddelid yr enw hwnnw'n llawn am beth amser fel enw'r dreflan. Dichon, fodd bynnag, mai Dolydd Irion oedd yr enw gwreiddiol; ceir yr enw ar fap John Evans o Ogledd Cymru (1804). Fe saif y Dolydd ar lawr dyffryn bas yr Afon Carrog, ac mae'r tir yn tueddu i aros yn iraidd pan fydd llymder y gaeaf wedi llosgi tyfiant y caeau oddi amgylch.
+
Treflan fechan ar lan [[Afon Carrog]] ac [[Afon Gwyled]], y ddwy afon sy'n cwrdd dan [[Pont Dolydd|Bont Dolydd]], ac sydd ar yr hen ffordd dyrpeg (A487) rhwng y [[Bontnewydd]] a'r [[Groeslon]] yw'r '''Dolydd'''. Saif ar y ffin rhwng plwyfi [[Llanwnda]] a [[Llandwrog]]. Cafwyd yr enw o fferm Dolydd Byrion oedd i'r dwyrain o'r ffordd, ac arddelid yr enw hwnnw'n llawn am beth amser fel enw'r dreflan. Dichon, fodd bynnag, mai Dolydd Irion oedd yr enw gwreiddiol; ceir yr enw ar fap John Evans o Ogledd Cymru (1804). Fe saif y Dolydd ar lawr dyffryn bas yr Afon Carrog, ac mae'r tir yn tueddu i aros yn iraidd pan fydd llymder y gaeaf wedi llosgi tyfiant y caeau oddi amgylch.
  
Mae'r tŷ mwyaf yn y Dolydd, sef Plas Dolydd, wedi arfer bod yn dafarn ac yno y cyfarfu egin gynulleidfa achos [[Capel Bryn'rodyn (MC)]], cyn i'r capel gael ei godi tua chwarter milltir i'r de. Roedd [[Evan Jones, Plas Dolydd]] yn adeiladydd a chontractwr pwysig yng nghanol y 19g.
+
Mae'r tŷ mwyaf yn y Dolydd, sef [[Plas Dolydd]], wedi arfer bod yn dafarn ac yno y cyfarfu egin gynulleidfa achos [[Capel Bryn'rodyn (MC)]], cyn i'r capel gael ei godi tua chwarter milltir i'r de. Roedd [[Evan Jones, Plas Dolydd]] yn adeiladydd a chontractwr pwysig yng nghanol y 19g.
  
Gerllaw Giât Dolydd, tollborth ar y [[Ffyrdd Tyrpeg|ffordd dyrpeg]] (y chwalwyd ei holion olaf wrth godi tŷ newydd a elwir Y Bwthyn) oedd [[Efail Dolydd]], gefail gynhyrchiol iawn hyd yr ugeinfed ganrif. Mae'n bosibl mai yn yr efail hon yn cynhelid ysgol am gyfnod byr tua 1810 gan [[Dafydd Ddu Eryri]].<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'' (Llundain, 1953), t.883</ref> Dyna, mae'n debyg, cafodd [[Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon]] ei addysg am gyfnod.<ref>Geraint Jones,''Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon'', (Llanrwst, 2008), tt.8, 17</ref> Olynydd yr efail honno yw'r modurdy presennol ger y bont, sydd bellach hefyd yn rhedeg swyddfa bost ar gyfer y Groeslon a'r cylch.
+
Mae cofnodion o 1801 yn dangos y Dolydd fel canolfan creffwyr; claddwyd Richard Lloyd, teiliwr o'r Dolydd, 81 oed; a Mr John Jones, cyweiriwr lledr neu farcwr, Dolydd irion, 41 oed. Tybed ai Plas Dolydd oedd safle gwaith yr olaf o'r rhain.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Dolydd, 1801</ref>
 +
 
 +
Ymddengys hefyd fod tanerdy neu farcdy wedi bod yn y Dolydd am gyfnod sylweddol. Mae'n bosibl fod [[Edward Jones]]  o'r Dolydd (?1749-?1786) y cyfansoddwr anthemau, yn farcwr wrth ei waith;<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Llandwrog, 1786</ref> ac mae cofnod o 1824 fod un Edward Evans, barcwr o'r Dolydd, wedi sefyll yn warantwr ar gyfer crefftwr oedd yn gwella [[Pont y Crychddwr]].<ref>Archifdy Caernarfon, XPlansB/190</ref>
 +
 
 +
Gerllaw [[Tollborth Dolydd]], tollborth ar y [[Ffyrdd Tyrpeg|ffordd dyrpeg]] (y chwalwyd ei holion olaf wrth godi tŷ newydd a elwir Y Bwthyn) oedd [[Efail Dolydd]], gefail gynhyrchiol iawn hyd yr ugeinfed ganrif. Mae'n bosibl mai yn yr efail hon yn cynhelid ysgol am gyfnod byr tua 1810 gan [[Dafydd Ddu Eryri]].<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'' (Llundain, 1953), t.883</ref> Dyna, mae'n debyg, cafodd [[Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon]] ei addysg am gyfnod.<ref>Geraint Jones,''Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon'', (Llanrwst, 2008), tt.8, 17</ref> Olynydd yr efail honno yw'r modurdy presennol ger y bont, sydd bellach hefyd yn rhedeg swyddfa bost ar gyfer y Groeslon a'r cylch.
  
 
Am gyfnod byr cyn diwedd y 19g bu band yn y dreflan, sef [[Band Dolydd]].
 
Am gyfnod byr cyn diwedd y 19g bu band yn y dreflan, sef [[Band Dolydd]].
  
Nid nepell o'r Dolydd fe geir (mewn ceunant y tu ôl i fferm Cefn Hendre) safle [[Melin Cil Tyfu]], a fu'n eiddo i deulu Wynniaid Gwedir yn ystod y 16g. Ar hyd y llwybr cyhoeddus sy'n arwain o'r bont i'r gorllewin i gyfeiriad lôn Pwllheli a [[Hen Gastell]] ceir olion a all fod yn hen wal gefn plasty'r Hendre, cartref y Cadben [[Edmund Glynn]], un o feibion plas [[Glynllifon]], ynad heddwch ac arweinydd gweinyddiad sirol yn ystod teyrnasiad Cromwell.
+
Nid nepell o'r Dolydd fe geir (mewn ceunant y tu ôl i fferm [[Cefn Hendre]]) safle [[Melin Cil Tyfu]], a fu'n eiddo i deulu Wynniaid Gwedir yn ystod y 16g. Ar hyd y llwybr cyhoeddus sy'n arwain o'r bont i'r gorllewin i gyfeiriad lôn Pwllheli a [[Hen Gastell]] ceir olion a all fod yn hen wal gefn plasty'r [[Hendre (Llanwnda)|Hendre]], cartref y Cadben [[Edmund Glynn]], un o feibion plas [[Glynllifon]], ynad heddwch ac arweinydd gweinyddiad sirol yn ystod teyrnasiad Cromwell.
  
Y Goeden Eirin, tŷ a addaswyd o hen adeiladau fferm yr Hendre, oedd cartref olaf y llenor a'r beirniad yr Athro John Rowlands.
+
Y Goeden Eirin, tŷ a addaswyd o hen adeiladau fferm yr Hendre, oedd cartref olaf y llenor a'r beirniad yr Athro [[John Rowlands]].
  
 
==Cyfeiriadau==
 
==Cyfeiriadau==
  
 
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]
 
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]

Y diwygiad cyfredol, am 20:16, 6 Ebrill 2020

Treflan fechan ar lan Afon Carrog ac Afon Gwyled, y ddwy afon sy'n cwrdd dan Bont Dolydd, ac sydd ar yr hen ffordd dyrpeg (A487) rhwng y Bontnewydd a'r Groeslon yw'r Dolydd. Saif ar y ffin rhwng plwyfi Llanwnda a Llandwrog. Cafwyd yr enw o fferm Dolydd Byrion oedd i'r dwyrain o'r ffordd, ac arddelid yr enw hwnnw'n llawn am beth amser fel enw'r dreflan. Dichon, fodd bynnag, mai Dolydd Irion oedd yr enw gwreiddiol; ceir yr enw ar fap John Evans o Ogledd Cymru (1804). Fe saif y Dolydd ar lawr dyffryn bas yr Afon Carrog, ac mae'r tir yn tueddu i aros yn iraidd pan fydd llymder y gaeaf wedi llosgi tyfiant y caeau oddi amgylch.

Mae'r tŷ mwyaf yn y Dolydd, sef Plas Dolydd, wedi arfer bod yn dafarn ac yno y cyfarfu egin gynulleidfa achos Capel Bryn'rodyn (MC), cyn i'r capel gael ei godi tua chwarter milltir i'r de. Roedd Evan Jones, Plas Dolydd yn adeiladydd a chontractwr pwysig yng nghanol y 19g.

Mae cofnodion o 1801 yn dangos y Dolydd fel canolfan creffwyr; claddwyd Richard Lloyd, teiliwr o'r Dolydd, 81 oed; a Mr John Jones, cyweiriwr lledr neu farcwr, Dolydd irion, 41 oed. Tybed ai Plas Dolydd oedd safle gwaith yr olaf o'r rhain.[1]

Ymddengys hefyd fod tanerdy neu farcdy wedi bod yn y Dolydd am gyfnod sylweddol. Mae'n bosibl fod Edward Jones o'r Dolydd (?1749-?1786) y cyfansoddwr anthemau, yn farcwr wrth ei waith;[2] ac mae cofnod o 1824 fod un Edward Evans, barcwr o'r Dolydd, wedi sefyll yn warantwr ar gyfer crefftwr oedd yn gwella Pont y Crychddwr.[3]

Gerllaw Tollborth Dolydd, tollborth ar y ffordd dyrpeg (y chwalwyd ei holion olaf wrth godi tŷ newydd a elwir Y Bwthyn) oedd Efail Dolydd, gefail gynhyrchiol iawn hyd yr ugeinfed ganrif. Mae'n bosibl mai yn yr efail hon yn cynhelid ysgol am gyfnod byr tua 1810 gan Dafydd Ddu Eryri.[4] Dyna, mae'n debyg, cafodd Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon ei addysg am gyfnod.[5] Olynydd yr efail honno yw'r modurdy presennol ger y bont, sydd bellach hefyd yn rhedeg swyddfa bost ar gyfer y Groeslon a'r cylch.

Am gyfnod byr cyn diwedd y 19g bu band yn y dreflan, sef Band Dolydd.

Nid nepell o'r Dolydd fe geir (mewn ceunant y tu ôl i fferm Cefn Hendre) safle Melin Cil Tyfu, a fu'n eiddo i deulu Wynniaid Gwedir yn ystod y 16g. Ar hyd y llwybr cyhoeddus sy'n arwain o'r bont i'r gorllewin i gyfeiriad lôn Pwllheli a Hen Gastell ceir olion a all fod yn hen wal gefn plasty'r Hendre, cartref y Cadben Edmund Glynn, un o feibion plas Glynllifon, ynad heddwch ac arweinydd gweinyddiad sirol yn ystod teyrnasiad Cromwell.

Y Goeden Eirin, tŷ a addaswyd o hen adeiladau fferm yr Hendre, oedd cartref olaf y llenor a'r beirniad yr Athro John Rowlands.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Dolydd, 1801
  2. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Llandwrog, 1786
  3. Archifdy Caernarfon, XPlansB/190
  4. Y Bywgraffiadur Cymreig (Llundain, 1953), t.883
  5. Geraint Jones,Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon, (Llanrwst, 2008), tt.8, 17