Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "David Thomas"

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cafodd '''David Thomas''' (1880-1966) ei eni yn LLanfechain, Gogledd Sir Drefaldwyn.Mae o'n fwyaf adnabyddus oherwydd ei gysylltiad â Chymdeithas Addysg...')
 
 
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Cafodd '''David Thomas''' (1880-1966) ei eni yn LLanfechain, Gogledd Sir Drefaldwyn.Mae o'n fwyaf adnabyddus oherwydd ei gysylltiad â Chymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Ngogledd Cymru, ac fel awdur ac undebwr. Bu'n olygydd ''Lleufer'', cylchgrawn CAyG.
+
Cafodd '''David Thomas''' (1880-1967) ei eni yn LLanfechain, Gogledd Sir Drefaldwyn. Enillodd radd M.A. ym 1928 gan Brifysgol Lerpwl, ac ym 1960 dyfarnwyd M.A. er anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru. Bu'n athro ysgol yn Llanfyllin ac wedyn mewn nifer o ysgolion yng Nghymru a Lloegr, gan gyrraedd [[Tal-y-sarn]] fel athro rywbryd cyn 1916, lle bu'n athro ar rai fel [[Gwilym R. Jones]]. Meddai ei wyres am y cyfnod hwnnw:
 +
 
 +
"Athro yn [[Ysgol Tal-y-sarn|ysgol gynradd Tal-y-sarn]] oedd o ym 1916, pan gafodd ei alw i'r Fyddin. Roedd wedi bod yn dysgu dynion i wynebu'r Tribiwnlys, ac yn sgwennu'n ddyfal i'r Wasg i wrthwynebu'r Rhyfel, ond yn y diwedd daeth ei dro ef i sefyll ger bron y swyddogion. Yn ei achos ar 2 Mai 1916, dywedodd:''"I am conscientiously opposed to everything that destoys human life. I cannot feel justified, under any circumstances, in destroying men's lives for the sake of anything of less value."''Rhoddwyd statws gwrthwynebydd cydwybodol iddo gan ddweud y byddai'n rhydd o 'combat service' ond y byddai yn rhaid iddo wneud 'non-combat service', a gwaith o 'bwysigrwydd cenedlaethol'. Nid oedd ei waith fel athro yn ateb y gofyniad hwnnw! Roedd yn rhaid iddo ganfod gwaith oedd o leiaf 50 milltir o'i gartref. Bu am fisoedd yn ceisio cael gwaith na fyddai'n golygu ei fod yn rhyddhau gŵr arall i fynd i'r Fyddin. Rai wythnosau yn unig cyn iddo wynebu carchar, daeth o hyd i waith fel gwas fferm yn Wrecsam. Yno y bu tan ddiwedd y Rhyfel. Cafodd ei swydd fel athro yn Nhal-y-sarn yn ôl hefyd, diolch i bwysau o du'r staff."<ref>Angharad Tomos, ''David Thomas (1880-1967)'' ar wefan Cymdeithas y Cymod [https://www.cymdeithasycymod.org.uk/davidthomas.htm], cyrchwyd 11.7.2019</ref>
 +
 +
O 1923 hyd 1945 bu'n dysgu ym Mangor. Mae o'n fwyaf adnabyddus oherwydd ei gysylltiad â Chymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Ngogledd Cymru, ac fel awdur ac undebwr. Bu'n olygydd ''Lleufer'', cylchgrawn CAyG.<ref>Manylion am ei yrfa yn ei gyfrol ar Ann Griffiths: ''Ann Griffiths a'i Theulu'', (Dinbych. 1963)</ref> Ymysg ei lyfrau poblogaidd oedd ''Hen Longau Sir Gaernarfon'' (1949) a ''Cau'r Tiroedd Comin'' (1952), y ddau'n ymwneud i raddau ag [[Uwchgwyrfai]] a llyfrau mwy athronyddol neu gyffredinol eu naws megis:
 +
*''Y Werin a'i Theyrnas'' (1910)
 +
*''Y Cynganeddion Cymreig'' (1923)
 +
*''Y Ddinasyddiaeth Fawr'' (1938)
 +
*''Dyddiau i'w Cofio'' (1948)
 +
*''Silyn (Robert Silyn Roberts), 1870-1930'' (1956)
 +
*''Ann Griffiths a'i Theulu'' (1963).
 +
 
 +
Roedd David Thomas yn daid i'r awdures [[Angharad Tomos]] ar ochr ei thad.
 +
  
{{eginyn}}
 
 
==Cyfeiriadau==
 
==Cyfeiriadau==
 
{{cyfeiriadau}}
 
{{cyfeiriadau}}

Y diwygiad cyfredol, am 10:18, 12 Gorffennaf 2019

Cafodd David Thomas (1880-1967) ei eni yn LLanfechain, Gogledd Sir Drefaldwyn. Enillodd radd M.A. ym 1928 gan Brifysgol Lerpwl, ac ym 1960 dyfarnwyd M.A. er anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru. Bu'n athro ysgol yn Llanfyllin ac wedyn mewn nifer o ysgolion yng Nghymru a Lloegr, gan gyrraedd Tal-y-sarn fel athro rywbryd cyn 1916, lle bu'n athro ar rai fel Gwilym R. Jones. Meddai ei wyres am y cyfnod hwnnw:

"Athro yn ysgol gynradd Tal-y-sarn oedd o ym 1916, pan gafodd ei alw i'r Fyddin. Roedd wedi bod yn dysgu dynion i wynebu'r Tribiwnlys, ac yn sgwennu'n ddyfal i'r Wasg i wrthwynebu'r Rhyfel, ond yn y diwedd daeth ei dro ef i sefyll ger bron y swyddogion. Yn ei achos ar 2 Mai 1916, dywedodd:"I am conscientiously opposed to everything that destoys human life. I cannot feel justified, under any circumstances, in destroying men's lives for the sake of anything of less value."Rhoddwyd statws gwrthwynebydd cydwybodol iddo gan ddweud y byddai'n rhydd o 'combat service' ond y byddai yn rhaid iddo wneud 'non-combat service', a gwaith o 'bwysigrwydd cenedlaethol'. Nid oedd ei waith fel athro yn ateb y gofyniad hwnnw! Roedd yn rhaid iddo ganfod gwaith oedd o leiaf 50 milltir o'i gartref. Bu am fisoedd yn ceisio cael gwaith na fyddai'n golygu ei fod yn rhyddhau gŵr arall i fynd i'r Fyddin. Rai wythnosau yn unig cyn iddo wynebu carchar, daeth o hyd i waith fel gwas fferm yn Wrecsam. Yno y bu tan ddiwedd y Rhyfel. Cafodd ei swydd fel athro yn Nhal-y-sarn yn ôl hefyd, diolch i bwysau o du'r staff."[1] 

O 1923 hyd 1945 bu'n dysgu ym Mangor. Mae o'n fwyaf adnabyddus oherwydd ei gysylltiad â Chymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Ngogledd Cymru, ac fel awdur ac undebwr. Bu'n olygydd Lleufer, cylchgrawn CAyG.[2] Ymysg ei lyfrau poblogaidd oedd Hen Longau Sir Gaernarfon (1949) a Cau'r Tiroedd Comin (1952), y ddau'n ymwneud i raddau ag Uwchgwyrfai a llyfrau mwy athronyddol neu gyffredinol eu naws megis:

  • Y Werin a'i Theyrnas (1910)
  • Y Cynganeddion Cymreig (1923)
  • Y Ddinasyddiaeth Fawr (1938)
  • Dyddiau i'w Cofio (1948)
  • Silyn (Robert Silyn Roberts), 1870-1930 (1956)
  • Ann Griffiths a'i Theulu (1963).

Roedd David Thomas yn daid i'r awdures Angharad Tomos ar ochr ei thad.


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Angharad Tomos, David Thomas (1880-1967) ar wefan Cymdeithas y Cymod [1], cyrchwyd 11.7.2019
  2. Manylion am ei yrfa yn ei gyfrol ar Ann Griffiths: Ann Griffiths a'i Theulu, (Dinbych. 1963)