Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "David Price (Dewi Dinorwig)"

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search
B
Llinell 1: Llinell 1:
Brodor o blwyf Llanddeiniolen yn Arfon oedd '''Dewi Dinorwig'''. Ei enw bedydd oedd David Price a blynyddoedd ei oes oedd 1804 hyd 1874. Yn y cylchoedd barddonol y'i hadnabyddid fel Dewi Dinorwig, ond yng nghylchoedd yr Annibynwyr, Mr. Price, Dinbych ydoedd. Daeth yn fardd ac yn bregethwr tra chymeradwy yng Nghymru ac yn America.
+
Brodor o blwyf Llanddeiniolen yn Arfon oedd '''Dewi Dinorwig'''. Ei enw bedydd oedd David Price a blynyddoedd ei oes oedd 1804 hyd 1874. Yn y cylchoedd barddol fe'i hadwaenid fel Dewi Dinorwig, ond yng nghylchoedd yr Annibynwyr, Mr. Price, Dinbych ydoedd. Daeth yn fardd ac yn bregethwr tra chymeradwy yng Nghymru ac yn America.
  
Yn Hydref 1829 fe'i urddwyd a'i sefydlu'n weinidog ar eglwys [[Capel Bethlehem (A), Trefor|Bethlehem yr Annibynwyr yn Nhrefor]] (Hendre oedd enw'r ardal bryd hynny). Yn rhan o'r ofalaeth roedd eglwysi Annibynnol Capel Helyg (Llangybi) a Sardis (Pencaenewydd). Nid arhosodd ond ychydig dros flwyddyn yn weinidog yr ofalaeth a gadawodd y fro ddiwedd 1830 am Ben-y-bont Fawr ym Maldwyn. Dyma pryd y cynyddodd ei boblogrwydd a'i enwogrwydd fel pregethwr a bardd.
+
Yn Hydref 1829 fe'i hurddwyd a'i sefydlu'n weinidog ar eglwys [[Capel Bethlehem (A), Trefor|Bethlehem yr Annibynwyr yn Nhrefor]] (yr Hendre oedd enw'r ardal bryd hynny). Yn rhan o'r ofalaeth roedd eglwysi Annibynnol Capel Helyg (Llangybi) a Sardis (Pencaenewydd). Nid arhosodd ond ychydig dros flwyddyn yn weinidog yr ofalaeth a gadawodd y fro ddiwedd 1830 am Ben-y-bont Fawr ym Maldwyn. Dyma pryd y cynyddodd ei boblogrwydd a'i enwogrwydd fel pregethwr a bardd.
  
 
Ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach symudodd i dref Dinbych, ond ym 1857 derbyniodd alwad i fod yn weinidog yn America - yn Utica, Newark (Ohio) a Williamsburg (Iowa). Bu farw ym 1874 ac fe'i claddwyd gyda'i wraig, Pamela, ym mynwent Forest Home, Milwaukee, Wisconsin. Bwriadodd gael ei englyn enwocaf ei hun ar ei garreg fedd, ond nis torrwyd arni. Yr englyn hwnnw yw'r olaf o'r englynion hyn : <ref>Alan Llwyd gol. ''Y Flodeugerdd Englynion'' (1978)</ref>
 
Ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach symudodd i dref Dinbych, ond ym 1857 derbyniodd alwad i fod yn weinidog yn America - yn Utica, Newark (Ohio) a Williamsburg (Iowa). Bu farw ym 1874 ac fe'i claddwyd gyda'i wraig, Pamela, ym mynwent Forest Home, Milwaukee, Wisconsin. Bwriadodd gael ei englyn enwocaf ei hun ar ei garreg fedd, ond nis torrwyd arni. Yr englyn hwnnw yw'r olaf o'r englynion hyn : <ref>Alan Llwyd gol. ''Y Flodeugerdd Englynion'' (1978)</ref>
Llinell 57: Llinell 57:
  
  
Mae ganddo emyn angladdol fu'n hynod o boblogaidd oes a fu. Fe'i gwelir yng Nghaniedydd yr Annibynwyr (Rhif 629). Dyma'r emyn :
+
Mae ganddo emyn angladdol a fu'n hynod o boblogaidd oes a fu. Fe'i gwelir yng Nghaniedydd yr Annibynwyr (Rhif 629). Dyma'r emyn :
  
  
 
Nac wyled teulu Duw  
 
Nac wyled teulu Duw  
  
Ar ôl y saint ;
+
Ar ôl y saint;
  
 
Maent gyda'r Iesu'n fyw -
 
Maent gyda'r Iesu'n fyw -
  
Mawr yw eu braint :
+
Mawr yw eu braint:
  
 
'Does yno neb yn glaf,
 
'Does yno neb yn glaf,
Llinell 79: Llinell 79:
 
Tu draw i'r afon ddu
 
Tu draw i'r afon ddu
  
Mae tŷ fy Nhad :
+
Mae tŷ fy Nhad:
  
 
'N ôl croesi at y lan,
 
'N ôl croesi at y lan,
  
Mae'r Ganaan wlad ;
+
Mae'r Ganaan wlad;
  
 
Er garwed ydyw'r glyn,
 
Er garwed ydyw'r glyn,
Llinell 102: Llinell 102:
  
  
Ym 1997 bu [[Seindorf Trefor]] ar daith yn Wisconsin yn America a chynhaliwyd oedfa goffa fer gan yr aelodau (30 ohonynt) a'u cefnogwyr (32) ar lan bedd Dewi Dinorwig ym Milwaukee. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Parchedig Ganon [[Idris Thomas]] (brodor o Ddinorwig), rheithor [[Eglwys San Siôr, Trefor]], a chyfeilwyd gan ran o'r Seindorf dan arweiniad [[Geraint Jones]]. Canwyd yr emyn uchod ar drefniant yr arweinydd o dôn John Roberts (Ieuan Gwyllt), ''Liverpool'', yn deimladwy iawn a gosodwyd dwy garreg fechan a gludwyd o fur Capel Bethlehem, Trefor]], lle bu Dewi'n weinidog, ar y bedd. Caewyd Bethlehem ym 1982, ac er 1988 mae'r adeilad yn eiddo i Seindorf Trefor lle mae'n dal i ymarfer.
+
Ym 1997 bu [[Seindorf Trefor]] ar daith yn Wisconsin yn America a chynhaliwyd oedfa goffa fer gan yr aelodau (30 ohonynt) a'u cefnogwyr (32) ar lan bedd Dewi Dinorwig ym Milwaukee. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Parchedig Ganon [[Idris Thomas]] (brodor o Ddinorwig), rheithor [[Eglwys San Siôr, Trefor]], a chyfeiliwyd gan ran o'r Seindorf dan arweiniad [[Geraint Jones]]. Canwyd yr emyn uchod yn deimladwy iawn ar drefniant yr arweinydd o dôn John Roberts (Ieuan Gwyllt), ''Liverpool'', a gosodwyd dwy garreg fechan a gludwyd o fur Capel Bethlehem, Trefor, lle bu Dewi'n weinidog, ar y bedd. Caewyd Bethlehem ym 1982, ac er 1988 mae'r adeilad yn eiddo i Seindorf Trefor lle mae'n dal i ymarfer.
  
 
==Cyfeiriadau==
 
==Cyfeiriadau==

Diwygiad 17:43, 10 Mai 2022

Brodor o blwyf Llanddeiniolen yn Arfon oedd Dewi Dinorwig. Ei enw bedydd oedd David Price a blynyddoedd ei oes oedd 1804 hyd 1874. Yn y cylchoedd barddol fe'i hadwaenid fel Dewi Dinorwig, ond yng nghylchoedd yr Annibynwyr, Mr. Price, Dinbych ydoedd. Daeth yn fardd ac yn bregethwr tra chymeradwy yng Nghymru ac yn America.

Yn Hydref 1829 fe'i hurddwyd a'i sefydlu'n weinidog ar eglwys Bethlehem yr Annibynwyr yn Nhrefor (yr Hendre oedd enw'r ardal bryd hynny). Yn rhan o'r ofalaeth roedd eglwysi Annibynnol Capel Helyg (Llangybi) a Sardis (Pencaenewydd). Nid arhosodd ond ychydig dros flwyddyn yn weinidog yr ofalaeth a gadawodd y fro ddiwedd 1830 am Ben-y-bont Fawr ym Maldwyn. Dyma pryd y cynyddodd ei boblogrwydd a'i enwogrwydd fel pregethwr a bardd.

Ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach symudodd i dref Dinbych, ond ym 1857 derbyniodd alwad i fod yn weinidog yn America - yn Utica, Newark (Ohio) a Williamsburg (Iowa). Bu farw ym 1874 ac fe'i claddwyd gyda'i wraig, Pamela, ym mynwent Forest Home, Milwaukee, Wisconsin. Bwriadodd gael ei englyn enwocaf ei hun ar ei garreg fedd, ond nis torrwyd arni. Yr englyn hwnnw yw'r olaf o'r englynion hyn : [1]

NEWID BYD

'Rwyf yn sâl a digalon - o achos

Afiechyd fy nwyfron.

Troes yn sur fy nghysuron

O ddŵr hallt y ddaear hon.


Yn ddi-nag, byth yn rhagor - ni welaf

Hen Walia, iach oror ;

Nid doeth i mi deithio môr,

Na, llechaf o'r naill ochor.


Mae fy nhaith a'm gwaith i gyd - yn dawel,

A diwedd fy mywyd

Bron ar ben, dyma'r ennyd

Af innau o boenau'r byd.


Digonwyd fi ar deganau y byd

Aed ei barch ac yntau

I rhyw ddyn a gâr y ddau -

Mynwent a nef i minnau.


Dywedodd D.Emrys Evans hyn am yr englyn olaf [2] : Cyfansoddodd Dewi Dinorwig englyn a haeddai le yn unrhyw ddetholiad. Rhed anesmwythyd blin clefyd y taedium vitae drwy ei linellau diamynedd, ac yna daw'r cyfuniad disglair yn nymuniad y llinell olaf, fel fflach a deifl ei olau'n ôl dros yr holl bennill.

Cyhoeddodd bedwar llyfr hefyd :

1. Y Catecism Cyntaf (1840)

2. Darlith ar Ryddid Crefyddol (1844)

3. Dyddiau y Dreth (1855)

4. Yr Adeiladydd Teuluaidd (1857)


Mae ganddo emyn angladdol a fu'n hynod o boblogaidd oes a fu. Fe'i gwelir yng Nghaniedydd yr Annibynwyr (Rhif 629). Dyma'r emyn :


Nac wyled teulu Duw

Ar ôl y saint;

Maent gyda'r Iesu'n fyw -

Mawr yw eu braint:

'Does yno neb yn glaf,

Mae yno'n haf o hyd

Yng nghwmni'r addfwyn Oen,

O boen y byd.


Tu draw i'r afon ddu

Mae tŷ fy Nhad:

'N ôl croesi at y lan,

Mae'r Ganaan wlad;

Er garwed ydyw'r glyn,

Mae yn y dyffryn du

Oleuni disglair mawr

Yn awr i ni.


Ar ddiwedd ei oes lluniodd englyn i'r enwog Barchedig Edward Stephen (Tanymarian) pan oedd hwnnw ar daith trwy America. Darllenwyd yr englyn yn Eisteddfod Utica 1874. Dyma fo :

   Nid pwffio, stwffio wnaeth Stephan - am glod
         Gyda'i glul yn unman ;
       Ond cafodd drwy'r byd cyfan
       Fawr fri am ragori'r gân.


Ym 1997 bu Seindorf Trefor ar daith yn Wisconsin yn America a chynhaliwyd oedfa goffa fer gan yr aelodau (30 ohonynt) a'u cefnogwyr (32) ar lan bedd Dewi Dinorwig ym Milwaukee. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Parchedig Ganon Idris Thomas (brodor o Ddinorwig), rheithor Eglwys San Siôr, Trefor, a chyfeiliwyd gan ran o'r Seindorf dan arweiniad Geraint Jones. Canwyd yr emyn uchod yn deimladwy iawn ar drefniant yr arweinydd o dôn John Roberts (Ieuan Gwyllt), Liverpool, a gosodwyd dwy garreg fechan a gludwyd o fur Capel Bethlehem, Trefor, lle bu Dewi'n weinidog, ar y bedd. Caewyd Bethlehem ym 1982, ac er 1988 mae'r adeilad yn eiddo i Seindorf Trefor lle mae'n dal i ymarfer.

Cyfeiriadau

  1. Alan Llwyd gol. Y Flodeugerdd Englynion (1978)
  2. D.Emrys Evans, Yr Epigram a'r Englyn