Cyngor Dosbarth Dwyfor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:05, 27 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Ffurfiwyd Cyngor Dosbarth Dwyfor ym 1974 pan ad-drefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru am y tro cyntaf ers 1888-94, pan ffurfiwyd cynghorau dosbarth dinesig a gwledig ar sail hen fwrdeistrefi, trefi modern a ffiniau'r hen undebau'r tlodion. Yn groes i Gyngor Bwrdeistref Arfon, penderfynodd Dwyfor beidio â mabwysiadu statws bwreistref - er bod yr hawl ganddynt gan fod Pwllheli fel bwrdeistref siartredig wedi bod â maer. Cadeirydd felly oedd prif gynghorydd Dwyfor.

Roedd Dwyfor (a enwyd ar ôl yr afon) yn cynnwys cwmwd Eifionydd a chantref Llŷn, yn ogystal â plwyfi Llanaelhaearn a Chlynnog Fawr o gwmwd Uwchgwyrfai.

Roedd prif swyddogaethau'r Cyngor Dosbarth yn ymwneud â materion dinesig (megis casglu sbwriel a phalmentydd), tai cymdeithasol ("tai cyngor"), cynllunio gwlad a thref manwl (roedd y sir yn edrych ar ôl cynllunio ar lefel strategol), meysydd chwarae, mynwentydd, canolfannau hamdden a phethau cyffelyb.

Daeth Dwyfor i ben fel awdurdod lleol ddiwedd Mawrth 1996, pan grëwyd siroedd gyda chynghorau unedol (sef, yn fras, holl bwerau'r cynghorau sir a'r cynghorau dosbarth).

Fe erys enw Dwyfor fel un o dair ardal weinyddol Gwynedd, gyda phwyllgor lle trafodir materion lleol, a swyddfa ranbarthol ym Mhwllheli. Gwelir arwyddion ffin Dwyfor ger waelod yr Allt Goch ar yr A499 nid nepell o'r Swan ac ar yr A487 ger y drofa am Chwarel Cefn Graeanog.