Cwmni Sain

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae Cwmni Sain yn gwmni sydd yn gweithio ym myd y cyfryngau (ac efo cerddoriaeth yn bennaf) ers hanner canrif. Mae'r cwmni â'i bencadlys ger Llandwrog, gyferbyn â fferm Chatham.

Dechreuadau'r Cwmni

Sefydlwyd Sain yng Nghaerdydd gan Dafydd Iwan, Huw Jones, a Brian Morgan Edwards, a chyhoeddwyd ei record gyntaf ar Hydref 9fed, 1969.

Symudwyd swyddfa’r cwmni o Gaerdydd i Landwrog, ger Caernarfon, ym 1971 er mwyn i’r cwmni fod yn nes i’r gynulleidfa Gymraeg, ac fel rhan o’r symudiad i ddechrau busnesau yn y Gymru Gymraeg wledig. Roedd y ddau Gyfarwyddwr gweithredol, Huw Jones a Dafydd Iwan, hefyd yn awyddus i godi eu plant mewn ardal Gymraeg, a setlodd y naill yn Llandwrog a’r llall yn y Waunfawr.

Yn 1973 symudodd y cwmni i Stad Ddiwydiannol Pen-y-groes, a dechrau cyflogi staff ychwanegol. Recordiau sengl ac EP oedd yr unig gynnyrch am y tair blynedd gyntaf, ond yn awr dechreuwyd cynhyrchu recordiau hir hefyd. O ran y deunydd, roedd y pwyslais yn bennaf i ddechrau ar ganu’r ifanc, ac yn arbennig y canu “protest”.

Gwernafalau

Yn 1975 agorwyd Stiwdio gyntaf Sain ar fferm Gwernafalau ger Llandwrog, ac ymunodd Hefin Elis â‘r staff fel cynhyrchydd.

1975 – 1979 oedd “oes aur ” Stiwdio Gwernafalau, gyda dros 100 o recordiau hir yn dod o’r stiwdio 8-trac. Erbyn hyn, roedd nifer o grwpiau roc a gwerin wedi dechrau yng Nghymru. Artistiaid amlwg y cyfnod ar label Sain oedd Hergest a Delwyn Siôn, Geraint Jarman, Heather Jones, Meis Stevens, Tecwyn Ifan, Mynediad am Ddim, Tebot Piws, Endaf Emlyn, Brân, Shwn, Ac Eraill a Sidan.

Roedd Dafydd Iwan yn parhau i brocio a diddanu’r tyrfaoedd gyda’i ganeuon personol gwleidyddol, a Sain yn parhau i fod â chysylltiad amlwg â‘r deffroad cenedlaethol a diwylliannol-ieithyddol a ddechreuodd yng Nghymru yn y 60au. Roedd nifer o artistiaid Sain yn canu am bynciau gwleidyddol a chenedlaethol Gymreig, ac hefyd yn flaenllaw yng Nghymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Trebor Edwards a Hogia'r Wyddfa oedd y ddau enw mwyaf poblogaidd yn y canu “canol-y-ffordd”. Os mai’r artistiaid a enwyd uchod oedd yn torri tir newydd, gwerthiant recordiau’r artistiaid hyn, a recordiau Corau Meibion, oedd prif ffynhonell ariannol y cwmni yn y cyfnod hwn. Cantorion eraill sydd wedi ennill clust y werin a tharo’r uchelfannau o safbwynt gwerthiant i gwmni Sain yw Timothy Evans, John ac Alun, Bryn Fôn, Ar Log, Plethyn a Dafydd Iwan. Mae elfen gref o’r Canu Gwlad hefyd wedi bod yn gyson boblogaidd yang Nghymru, gydag enwau fel Doreen Lewis, Iona ac Andy, Dylan a Neil, Broc Môr, a Brenda Edwards yn sefyll allan, a llu o grwpiau gwerin cyfoes o safon megis 4 yn y Bar, Gwerinos a grŵp Pigyn Clust. Mae casgliadau bob amser yn elfen bwysig o werthiant unrhyw gwmni recordiau, ac nid yw Sain yn eithriad. Mae casgliadau swfenîr, casgliadau gwerin a chlasurol, goreuon artistiaid unigol, ac yn arbennig casgliadau corau meibion ymhlith y recordiau a werthodd fwyaf erioed, ac yn cymharu’n dda gyda gwerthiant albyms Saesneg.

Stiwdio newydd

Agorwyd Stiwdio newydd Sain gydag offer 24-trac ar ei safle bresennol yn 1980. Ar y pryd, roedd hi gyda’r mwyaf modern o’i bath yn Ewrop, ac roedd gan y cwmni hefyd Stiwdio Deithiol 8-trac. Symudwyd y swyddfeydd o Ben-y-groes i’r un safle â‘r Stiwdio yn 1982. Erbyn hyn yr oedd 15 o bobl yn gweithio yn amser llawn i’r cwmni.

Aeth Huw Jones i fyd y teledu yn fuan ar ôl sefydlu’r stiwdio newydd, a bu’n gyfrifol am sefydlu cwmni adnoddau Barcud a chwmni cynhyrchu Tir Glas ar gyfer sianel deledu newydd S4C. Yn fuan wedyn, wedi 10 mlynedd gynhyrchiol, aeth Hefin Elis yntau i fyd y teledu, er iddo barhau i gynhyrchu recordiau i Sain fel yr oedd amser yn caniatau.


O'r feinyl i Grynoddisg a DVD

Recordiau hir (LP) a chasetiau oedd prif gynnyrch Sain trwy gydol y 70au a’r 80au, ond yna’n raddol collodd y feinyl ei le i’r Cryno-Ddisg. Bu’r CD a’r casét yn cyd-fyw am flynyddoedd, ond gyda throad y ganrif, dechreuodd y casét hefyd ddiflannu, ac erbyn hyn, y CD a’r DVD yw’r ddau brif fformat.

Yn 1987, agorwyd Stiwdio 2 yng Nghanolfan Sain, sydd bellach â‘r gallu i olygu’n ddigidol, ac erbyn hyn mae llawer o waith aml-gyfryngol yn digwydd yno, wrth i Sain ddatblygu cysylltiadau cryfach â‘r byd ffilm a theledu.

Ar ddechrau’r 90au, bu dau ddatblygiad pwysig yn hanes Sain: 1. sefydlu label CRAI, yn bennaf ar gyfer cerddoriaeth yr ifanc, miwsig dawns a chyfrifiadurol. Ar y label hon yr ymddangosodd Catatonia a Bob Delyn gyntaf, yn ogystal â Mike Peters a’r Alarm. Bu Rhys Mwyn yn rhedeg label Crai am rai blynyddoedd cyn mynd i weithio ar ei liwt ei hun. 2. Sefydlu Fideo Sain oedd yr ail, o dan ofal O.P. Huws. Bu Sain yn dosbarthu fideos o raglenni S4C ers canol yr 80au, ond bellach ychwanegwyd fideos gwreiddiol. Yn Stiwdios Sain y dechreuodd Wil Cwac Cwac a Guto Gwningen siarad Cymraeg ar fideo a DVD.

Erbyn hyn, gyda’r dechnoleg yn datblygu’n gyflym, mae dau o beirianwyr Sain, Deian a Clinton, wedi sefydlu cwmni annibynnol OMA yng Nghanolfan Sain sy’n gallu awduro, dybio, golygu a dyblygu ar gyfer DVDau yn Gymraeg a Saesneg. Mae’n cynhyrchu ar gyfer SAIN ei hun, ac ar gyfer cynhyrchwyr allanol.

Clasurol

Bryn Terfel yw artist amlycaf adran glasurol Sain, ac ar y label hon y cyhoeddodd ei ddwy albym gyntaf erioed, gan ychwanegu dwy arall ers hynny (sef gwaith Schubert “Schwanengesang”, a chaneuon Meirion Williams), ac albym enwog “Benedictus” gyda Rhys Meirion. Ymhlith y cantoresau clasurol mae Elin Manahan Thomas, Rebecca Eyans, Gwawr Edwards a Shân Cothi, ac ymhlith rhestr hir o ddynion mae Rhys Meirion a Stuart Burrows.

Mae catalog Sain hefyd yn cynnwys rhai o gewri clasurol y gorffennol, megis David Lloyd a Leila Megane. Sain oedd yn gyfrifol am ddod â’r Aled Jones ifanc i sylw’r byd, ac y mae ei draciau gorau ar gael o hyd ar ddwy CD.

Y delyn yw offeryn cenedlaethol Cymru, ac mae gan Sain ddewis helaeth o gerddoriaeth telyn yn ein catalog. Mae nifer o brif delynorion y wlad wedi recordio i Sain, ar y delyn bedal glasurol, y delyn Geltaidd fechan, ac ar y Delyn Deires draddodiadol. Yn eu plith mae Catrin Finch, Gwenan Gibbard, Osian Ellis ac Elinor Bennett.

Mae corau Cymru yn parhau i fod ymhlith goreuon y byd. Mae bron pob un o gorau enwog Cymru ar label Sain. Mae'r catalog yn cynnwys nifer fawr o gasgliadau corawl, a nifer o recordiadau o gorau cyfansawdd yng Ngwyliau’r Albert Hall, ar CD a DVD.

Aml-gyfryngol a'r Wê

Yn 1997, ail-strwythurwyd y cwmni, a gosod system gyfrifiadurol newydd i reoli holl waith a stoc y cwmni, ac aeth y cwmni ar y Wê Fyd-eang. Bellach, mae gwerthu drwy’r Wê a thros y rhyngrwyd ac ar wefannau fel iTunes yn rhan bwysig o’i weithgarwch. Ehangodd nifer y dosbarthwyr rhyngwladol trwy i Sain fynychu ffeiriau masnach ar gyfer cerddoriaeth y byd, yn arbennig WOMEX a MIDEM.

Yn 2003, sefydlwyd label cerddoriaeth llyfrgell SLIC gyda Gwenan Gibbard yn Rheolwr. Gwenan hefyd sy’n gyfrifol am gyhoeddi cerddoriaeth Cyhoeddiadau Sain yn ddigidol ac ar bapur, yn ogystal â bod yn un o artistiaid ifanc mwyaf llwyddiannus y cwmni.

Prif Weithredwr newydd

Yn Ionawr 2004 penodwyd Dafydd Roberts (sy’n adnabyddus fel aelod o’r grwp gwerin Ar Log) fel Prif Weithredwr Cwmni Sain. Datblygodd strwythur adrannol y cwmni ymhellach, gyda rheolwr/aig ar gyfer pob adran, cyflwynodd gatalog Sain i’r byd lawrlwytho digidol a sefydlodd label newydd RASAL ar gyfer cerddoriaeth yr ifanc. Yn 2007 crewyd dwy is-label arall i gynrychioli cerddoriaeth “indi” (COPA) a chantorion-gyfansoddwyr (GWYMON).

Yn 2007, ymddeolodd O. P. Huws fel Pennaeth yr Adran Amlgyfrwng, ond mae’n parhau i fod yn un o Gyfarwyddwyr y cwmni. Y ddau Gyfarwyddwr arall yw Dafydd Iwan a Hefin Elis.

Yn 2008, agorwyd trydedd stiwdio’r cwmni, lle cynhyrchir a throsleisir cartwnau ar gyfer S4C a DVDs y cwmni. Yno hefyd, ôl-gynhyrchir rhaglenni radio, ffilm a theledu, a phrosesu pecynnau preifat i gwmnïau corfforaethol.

Datblygiadau diweddar

Mae gan Sain siop ar y Maes yng Nghaernarfon sydd ymhlith siopau Cymraeg mwyaf llwyddiannus Cymru, a rhwng Canolfan Sain yn Llandwrog a siop NaNog, mae’r cwmni yn cyflogi tua 20 o bobol yn llawn neu’n rhan-amser, a llawer mwy yn achlysurol fel cynhyrchwyr a cherddorion a pheiriannwyr.

Ymhlith artistiaid cyfoes mwyaf llwyddiannus y cwmni mae Georgia RuthH, a enwebwyd ar gyfer dwy o wobrau Gwerin Radio 2 y BBC, y canwr a wnaeth enw iddo’i hun yn Les Mis a Phantom of the Opera, John Owen-Jones, a’r Tri Tenor. Mae’r labeli Rasal, Gwymon a Copa yn llwyfan i rai o gantorion a bandiau mwyaf poblogaidd Cymru. . Ychwanegiad pwysig i’n catalog dros y blynyddoedd diwethaf hyn yw “box-sets” o waith rhai o enwau mawr y byd adloniant Cymraeg.[1]


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Sain [1], cyrchwyd 6.2.2021 ac addaswyd gyda chaniatâd y cwmni.