Clynnog Fawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:30, 10 Mehefin 2019 gan Heulfryn (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio
A view of Clynnog-Vawr near Carnarvon.jpeg

Clynnog Fawr yw plwyf mwyaf Uwchgwyrfai o ran arwynebedd. Enw llawn y plwyf yw "Clynnog Fawr yn Arfon". Ystyr "Clynnog" yw man lle mae coed celyn yn tyfu. Yn wir, ceir enghreifftiau o'r enw Y Gelynnog mewn dogfennau cynnar.

Yn ogystal â phentref Clynnog Fawr ei hun,ble mae'r eglwys ac nid nepell o'r môr, mae'r plwyf yn cynnwys y pentrefi neu'r treflannau canlynol: Capel Uchaf, Tai'n Lôn, Pontlyfni, Brynaerau, Aberdesach ac, ym mhenucha'r plwyf, Pant-glas, yn ogystal ag ardal fwy gwasgaredig Bwlchderwin.

Mae'n debygol y defnyddir yr ansoddair 'mawr' ar ôl yr enw i'w wahanaethu oddi wrth Glynnog Fechan ym mhlwyf Llangeinwen, sir Fôn, lle oedd gan y sefydliad crefyddol (neu 'glas') a sefydlwyd gan Beuno diroedd - neu efallai oherwydd pwysigrwydd y man i'r Eglwys, ac oherwydd maint yr eglwys ei hun.

Ffiniau a thirwedd[golygu]

Mae i'r de o blwyfi Llandwrog a Llanllyfni (gan godi dros Fynydd Graig Goch hyd at gopa Craig Cwm Dulyn), ac i'r gogledd o blwyf Llanaelhaearn, yn ogystal â ffinio ar nifer o blwyfi Eifionydd, hefyd ar ei ffin ddeheuol.

Yr oedd y plwyf yn rhan o Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon at ddibenion Deddf y Tlodion o 1837 ymlaen.

Yr eglwys a'i sant[golygu]

Eglwys Clynnog c1975.jpg

Credir i Beuno Sant sefydlu 'clas' (ond clâs yw'r ynganiad) neu fynachlog agored yn unol ag arferion yr eglwys Geltaidd, a hynny yn ystod y 7g, o bosibl rhwng 620 a 633. Dyma un o brif gyrchfannau i bererinion ar eu taith i Ynys Enlli, a daeth cyfoeth yn sgil yr ymwelwyr defosiynol - dichon mai hen gist dderw a elwir yn gyff Beuno sydd yn dal yn yr eglwys oedd y blwch offrwm a ddefnyddid i hel cyfraniadau'r pererinion. Gyda chyfoeth o'r fath, codwyd eglwys newydd ar safle hen eglwys Beuno rhwng 1480 a 1500 - ond ar ôl diddymu'r mynachlogydd a sefydliadau pererindota yn y 1530au, dim ond fel eglwys y plwyf y defnyddid - ac y defnyddir - yr adeilad.

Mae'r eglwys wedi ei chysegru yn enw Beuno Sant, ei sylfaenydd tybiedig, sydd â sant sydd yn gysylltiedig a sawl eglwys arall yng Nghymru, gan gynnwys eglwysi Carnguwch a Phistyll sy'n ffinio ar Uwchgwyrfai, ac eglwys Aberffraw ar draws Bae Caernarfon o Glynnog Fawr ymysg eraill.

Nid nepell o'r eglwys ceir Ffynnon Beuno, ychydig i'r de ar ochr yr hen lôn bost cyn cyrraedd Maes Glas.

Roedd ysgol yng Nghapel Beuno (Eglwys y Bedd) ym 1811.

Y traeth, pysgota môr a hwylio[golygu]

Y Borth, Clynnog, c1890

Mae'n bur debyg fod cysylltiad â chlas Beuno ar draws y bae i rannau eraill o'r tir mawr a Môn, a dichon mai agosrwydd y clas at y môr oedd yn gyfrifol i raddau am iddo gael ei ysbeilio gan y Northmyn o Iwerddon (Gwŷr Duon Dulyn) yn y 10g - os credir Brut y Tywysogion. Mae tystiolaeth fod ambell i long wedi cario nwyddau i Glynnog o'r 13g. Mae'n wybyddus fod llong o'r enw Le Geffrey wedi cario cargo o win i Glynnog ym 1520/1.[1]

Roedd pysgotwyr penwaig - ac o bosibl lledod hefyd - yn arfer hwylio allan o'r Borth ar lan y môr ger Clynnog yn y 18-19gg. Roedd gwraig Syr Ifor Williams yn cofio ei thaid yn sôn fel y byddent yn gweddïo cyn cychwyn allan.[2]

Adroddodd John Williams (John Coed), Cowrt Bach,yr hanes hwn yn 1967 (a recordiwyd i Amgueddfa Werin Cymru): "Roedd yna hen wraig yn byw yn Y Borth (tai sgotwrs) meddan nhw, ac mi fyddai ’ma beth ofnadwy o fecryll a penwaig yng Nghlynnog yn yr hen Gorad ’ma. Roedden nhw wedi dal llond y cae bron o benwaig ac fe’u gadawyd yno i ddrewi. Mi felltithiodd yr hen wraig nhw ac mi ddywedodd na fyddai penwaig yng Nghlynnog am 200 mlynedd. A fuo na ddim chwaith." Byddai ei dad yn arfer dweud bod hen dai bach yn Aberafon, Gyrn Goch, yn yr hen oes - cyn ei amser ef - ac y byddai pysgotwrs yn byw yno.

Nodir yn llyfr David Thomas hefyd fod llong wedi ei hadeiladu yng Nghlynnog - efallai mai wrth geg Afon Desach neu yn Aberafon y digwyddodd hyn lle 'roedd modd lansio cwch o'r lan i'r dŵr ar adeg o lanw uchel: creigiau a cherrig sydd ar y traeth ei hun. Gydag erydiad cyson, fodd bynnag, gellid dychmygu fod yna gei ger Y Borth a fyddai wedi rhoi digon o gysgod. Ym 1780 adeiladwyd y llong, sef y Nancy, 32 tunnell o faint. Fe hwyliodd hi hyd nes iddi suddo ym 1817.[3]

Y Borth yn 1974 ond erbyn 2019 mae'r môr wedi erydu'r lle.
(Ty'n-y-coed a welir trwy'r twll ffenestr)

Tai a phobl nodedig[golygu]

Prif dŷ'r plwyf yn yr amser a fu,efallai, oedd Lleuar Fawr. Roedd Mynachdy Gwyn ym mhen ucha'r plwyf, cartref teulu Meredydd neu Feredith hefyd yn fangre o ddylanwad.

Ymysg y rhai a hanai o'r plwyf neu a drigai ynddo oedd:

Y pentref[golygu]

Safai'r pentref o bobtu'r lôn bost rhwng Caernarfon a Phwllheli - ond, erbyn hyn, mae ffordd osgoi wedi mynd â'r traffig o ganol y pentref. Arferai fod yn gyrchfan bwysig, nid yn unig oherwydd y cysylltiadau â Beuno, ond hefyd gan mai dyma'r pentref oedd yr agosaf at hanner y ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli, ac roedd galw am dafarnau a gwesty coets fawr yma. Fodd bynnag, aeth llawer o'r busnes i gyfeiriad y rheilffordd, pan agorodd honno i Bwllheli (trwy Afon-wen) ym 1867. Ys dywed W. R. Ambrose: "Er pan agorwyd Rheilffordd Sir Gaerynarfon y mae pentref Clynnog wedi myned yn un o'r cilfachau mwyaf tawel a neillduedig o fewn y wlad."[4]

Bu nifer o dafarnau a siopau a gweithdai crefftwyr, yn cynnwys gefail, yma dros y blynyddoedd, ond caewyd y gwesty olaf, Y Beuno, yn nechrau'r 2010au a'i osod yn lle gwyliau hunan ddarpar. Roedd swyddfa'r post a oedd hefyd yn siop wedi cau erbyn hynny, ond mae siop arall wedi agor yn y garej ar gyrion y pentref. Ar un cyfnod caed llyfrgell bentrefol nad oedd yn perthyn i lyfrgell y sir yn yr Ysgoldy ble mae Canolfan Hanes Uwchgwyrfai wedi ei sefydlu - yn hen Ysgol Ragbaratoawl Clynnog, sef ysgol y Methodistiaid Calfinaidd a gychwynnodd ddarpar weinidogion ar eu gyrfa o astudio am y weinidogaeth. Fe'i caewyd ym 1929 a'i throsglwyddo i'r Rhyl.

Agorwyd Neuadd y Pentref, Clynnog Fawr yn Ebrill 1957.

Prif nodweddion y pentref yw'r Eglwys, ffynnon Beuno a Chromlech Bachwen.

Digwyddiadau[golygu]

Hydref 5 1652: Cosbi William Rowlands am halogi'r Saboth. Ei drosedd oedd gyrru gyrr o wartheg o Landwrog i Bwllheli. Fe'i dirwywyd i 10 swllt.

Mehefin 25 1976: Torri ceubren y pentref ger Tyrpaig. Yn ôl traddodiad byddai'r pentref farw pe gwneid hyn. Lluniau i ddilyn a rhagor o hanes.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. David Thomas, Llongau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), tt.2, 4, 9.
  2. David Thomas, Llongau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), t.35
  3. David Thomas, Llongau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), t.206
  4. W.R. Ambrose, Nant Nantlle, (1872), t.96.