Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Chwarel Coedmadog"

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search
B
 
Llinell 1: Llinell 1:
 
Chwarel lechi oedd '''Chwarel Coedmadog''', neu fel y gelwir hi weithiau y '''Gloddfa Glai''', yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]]. Twll agored ydoedd.
 
Chwarel lechi oedd '''Chwarel Coedmadog''', neu fel y gelwir hi weithiau y '''Gloddfa Glai''', yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]]. Twll agored ydoedd.
  
Agorwyd y chwarel hon ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar dir ystâd [[Coedmadog]], wrth ymyl [[Cloddfa'r Coed]]. Erbyn yr 1880au, Cwmni Llechi Coed Madog oedd yn gyfrifol am ei gweithio. Yn 1883 roedd 135 o weithwyr yn gyflogedig yno, ac roeddynt yn cynhyrchu 2,879 tunnell o lechi. Codwyd tramffordd fewnol erbyn 1877, gydag injan stêm ''De Winton'' yn gweithredu arni erbyn y diwedd. Caeodd y chwarel yn 1908-9, er bod gwaith ar raddfa fechan wedi parhau yno hyd 1920.<ref>Tomos, Dewi ''Chwareli Dyffryn Nantlle'' (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007), ''passim''.</ref> Y broblem, mae'n debyg, oedd pwysau dŵr yn llenwi'r twll yn gyflym oni fyddai yna waith pwmpio cyson. Roedd y llechi, serch hynny, o'r ansawdd gorau gan hollti'n ardderchog; fe'u marchnatwyd dan yr enw llechi ''Caernarvonshire Blue''. Roedd cyswllt yma hefyd gyda [[Rheilffordd Nantlle]], ond o 1881 ymlaen roedd cyswllt uniongyrchol gyda [[Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin (LNWR)|''LNWR'']] - yr unig chwarel i wneud hynny yn yr ardal - roedd seidin yn rhedeg ymlaen o [[Gorsaf reilffordd Nantlle|orsaf Nantlle]] i mewn i'r chwarel.<ref>Idwal Hughes, ''Chwareli Dyffryn Nantlle'',(Pen-y-groes, 1980), t.9-10</ref>
+
Agorwyd y chwarel hon ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar dir [[Ystad Coedmadog]], wrth ymyl [[Cloddfa'r Coed]]. Erbyn yr 1880au, Cwmni Llechi Coed Madog oedd yn gyfrifol am ei gweithio. Yn 1883 roedd 135 o weithwyr yn gyflogedig yno, ac roeddynt yn cynhyrchu 2,879 tunnell o lechi. Codwyd tramffordd fewnol erbyn 1877, gydag injan stêm ''De Winton'' yn gweithredu arni erbyn y diwedd. Caeodd y chwarel yn 1908-9, er bod gwaith ar raddfa fechan wedi parhau yno hyd 1920.<ref>Tomos, Dewi ''Chwareli Dyffryn Nantlle'' (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007), ''passim''.</ref> Y broblem, mae'n debyg, oedd pwysau dŵr yn llenwi'r twll yn gyflym oni fyddai yna waith pwmpio cyson. Roedd y llechi, serch hynny, o'r ansawdd gorau gan hollti'n ardderchog; fe'u marchnatwyd dan yr enw llechi ''Caernarvonshire Blue''. Roedd cyswllt yma hefyd gyda [[Rheilffordd Nantlle]], ond o 1881 ymlaen roedd cyswllt uniongyrchol gyda [[Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin (LNWR)|''LNWR'']] - yr unig chwarel i wneud hynny yn yr ardal - roedd seidin yn rhedeg ymlaen o [[Gorsaf reilffordd Nantlle|orsaf Nantlle]] i mewn i'r chwarel.<ref>Idwal Hughes, ''Chwareli Dyffryn Nantlle'',(Pen-y-groes, 1980), t.9-10</ref>
  
 
Yn ystod dirwasgiad y 1930au, cymerodd W.J. Davies brydles ar y tomennydd a bu cannoedd o'r di-waith yn rybela am ddeunydd defnyddiadwy.<ref>Idwal Hughes, ''op. cit.'', t.10</ref>
 
Yn ystod dirwasgiad y 1930au, cymerodd W.J. Davies brydles ar y tomennydd a bu cannoedd o'r di-waith yn rybela am ddeunydd defnyddiadwy.<ref>Idwal Hughes, ''op. cit.'', t.10</ref>

Y diwygiad cyfredol, am 19:44, 29 Mehefin 2022

Chwarel lechi oedd Chwarel Coedmadog, neu fel y gelwir hi weithiau y Gloddfa Glai, yn Nhal-y-sarn. Twll agored ydoedd.

Agorwyd y chwarel hon ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar dir Ystad Coedmadog, wrth ymyl Cloddfa'r Coed. Erbyn yr 1880au, Cwmni Llechi Coed Madog oedd yn gyfrifol am ei gweithio. Yn 1883 roedd 135 o weithwyr yn gyflogedig yno, ac roeddynt yn cynhyrchu 2,879 tunnell o lechi. Codwyd tramffordd fewnol erbyn 1877, gydag injan stêm De Winton yn gweithredu arni erbyn y diwedd. Caeodd y chwarel yn 1908-9, er bod gwaith ar raddfa fechan wedi parhau yno hyd 1920.[1] Y broblem, mae'n debyg, oedd pwysau dŵr yn llenwi'r twll yn gyflym oni fyddai yna waith pwmpio cyson. Roedd y llechi, serch hynny, o'r ansawdd gorau gan hollti'n ardderchog; fe'u marchnatwyd dan yr enw llechi Caernarvonshire Blue. Roedd cyswllt yma hefyd gyda Rheilffordd Nantlle, ond o 1881 ymlaen roedd cyswllt uniongyrchol gyda LNWR - yr unig chwarel i wneud hynny yn yr ardal - roedd seidin yn rhedeg ymlaen o orsaf Nantlle i mewn i'r chwarel.[2]

Yn ystod dirwasgiad y 1930au, cymerodd W.J. Davies brydles ar y tomennydd a bu cannoedd o'r di-waith yn rybela am ddeunydd defnyddiadwy.[3]

Dyma'r chwarel gyntaf yn Nyffryn Nantlle i gael ei thirlunio a llenwi'r twll a chwalu'r tipiau, gan greu man i chwarae. Cynt yr oedd y tipiau ar hyd y lein o'r chwarel hyd at y gwaith nwy, ac yn cuddio golygfa o'r dyffryn o'r tai a safai ar hyd Ffordd yr Orsaf.[4]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007), passim.
  2. Idwal Hughes, Chwareli Dyffryn Nantlle,(Pen-y-groes, 1980), t.9-10
  3. Idwal Hughes, op. cit., t.10
  4. Idwal Hughes, op. cit., t.10