Capel Bryn'rodyn (MC), Y Groeslon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:05, 11 Mehefin 2019 gan Heulfryn (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Addoldy Methodistaidd ger pentref Dolydd oedd Capel Bryn'rodyn (MC). fe'i gaewyd fel man addoli fis Gorffennaf 2018, er i'r capel gael ei dymchwel tua 20 mlynedd ynghynt, gan ddefnyddio'r festri wedyn fel addoldy.[1]

Yn ôl yr hanes yn llyfr William Hobley, tua 1770 fe arferid cynnal cyfarfodydd misol ac ati yn nafarn Plas Dolydd, fel y man lleol addas gyda lle a lluniaeth ar gael, cyn i'r achos gael ei sefydlu'n ffurfiol, ond ar un achlysur neilltuol fe gafwyd gwrthwynebiad dan esgus amddiffyn yr Eglwys Sefydledig, gyda dorf wrthwynebus yn taro drymiau ac ati. Aeth y rhai oedd yn y cyfarfod oddi yno a cheisio cynnal cyfarfod yn Rhostryfan, ond er clywed y drymiau'n agosáu at y fan honno aeth y cyfarfod ymlaen. Honnwyd fod y prif ddrymiwr wedi ei daro gan y cryndod, fel nad oedd mod iddo barhau.[2]

Sylfaenydd yr achos oedd Sion Griffith a ddaeth i ffermdy Bryn'rodyn i fyw ym 1773 gyda'i wraig Elsbeth. Fe'i gefnogwyd yn y gwaith o sefydlu achos gan Ifan Sion, Tyddyn Mawr a Robert Hughes, Cae Llywarch.[3]

Agorwyd y Capel yn 1789, ar ôl dechrau achos yno ychydig o flynyddoedd yn gynharach. Yn debyg iawn i gapeli MC eraill a adeiladwyd yn yr un cyfnod, roedd prydles o 99 mlynedd ar y Capel gyda'r amod "....o godi adeilad da, sylweddol, i'r amcan o weddío, darllen a dehongli'r sgrythyr, pregethu'r Efengyl, a moli'r hollalluog". Roedd rhent o ddeg swllt y flwyddyn ar y capel hefyd.

Credir i'r Capel yma gynnal yr ysgol Sul gyntaf yn Arfon yn 1790.

Cysylltiad gyda Chapeli eraill[golygu]

Pan adeiladwyd Capel Bwlan (MC), Llandwrog yn 1815 hon oedd cangen-eglwys cyntaf Capel Bryn'rodyn. Yr ail gangen oedd capel yn Rhostryfan a ddaeth yn Capel Horeb (MC), Rhostryfan, lle codwyd Capel ym 1820. Yna, y trydydd cangen oedd Capel Carmel (MC), ac ymunwyd y Capel hon yn 1826 ar ôl iddi gael ei hadeiladu.[4]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwybodaeth bersonol a lleol cyffredinol
  2. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf. 1, (Caernarfon, 1910) t.150
  3. W. Hobley, op. cit., t.151
  4. Hobley, W, op. cit., tt.150-157