Côr Plant Tal-y-sarn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:38, 12 Medi 2023 gan Cyfaill Eben (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Roedd Côr Plant Tal-y-sarn yn bur llwyddiannus yn ystod dau ddegawd olaf y 19g. Clywir sôn amdanynt yn ennill yn fynych yn Eisteddfod Gadeiriol Tal-y-sarn yn erbyn corau lleol eraill. Er enghraifft, ceir sôn am hyn ym 1886[1]; 1894 a 1896 (dan arweiniad J.W. Jones ar y ddau achlysur)[2]; 1898 (dan arweiniad Miss Roberts)[3]; a 1900 (dan arweiniad William Jones)[4].

Dywedir i'r côr gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1894 yn y gystadlaeuaeth i gorau plant gyda 50-60 o aelodau, ond ysywaeth Côr Ebeneser, Bangor a enillodd ac roedd Côr Acrefair yn ail.[5]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Gwyliedydd, 9.6.1886, t.7
  2. Caernarvon and Denbigh Herald, 18.5.1894, t.8; Y Genedl Gymreig, 19.5.1896, t.3
  3. Y Genedl Gymreig, 24.5.1898, t.3
  4. Y Genedl Gymreig, 19.5.1900, t.8
  5. Y Genedl Gymreig, 17.7.1894, t.7