Betws Garmon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Cafodd ffiniau plwyf Betws Garmon a orweddai'n wreiddiol yn gyfangwbl yn Isgwyrfai eu hymestyn ym 1895[1]. Yn y flwyddyn honno, sefydlwyd cysyniad newydd o 'blwyfi sifil', sef yr uned fwyaf lleol o lywodraeth leol - cyn hynny, roedd cyfarfod o'r plwyfolion, neu festri, yn gyfrifol am faterion eglwysig a dinesig o fewn ffiniau'r plwyf.

Ym 1895, newidwyd ffin plwyfi Betws Garmon a Llanwnda wrth i'r llethrau mynyddig a wynebai'r dwyrain a glannau gorllewinol Afon Gwyrfai o Bont Cyrnant, Waunfawr ym mhlwyf Llanwnda gael eu trosglwyddo i blwyf sifil Betws Garmon. Felly, mae rhan o Fetws Garmon bellach o fewn ffiniau Uwchgwyrfai. Ymdrinnir Cof y Cwmwd â phynciau sydd yn ymwneud â'r rhannau hynny o Fetws Garmon sydd wedi bod yn Uwchgwyrfai ers 1895, a'r rhannau hynny'n unig.

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XPlansS/9