Alfred Henderson

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:15, 30 Mawrth 2020 gan Heulfryn (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Gŵr o Nantlle oedd Alfred Henderson (1894-1979), offerynnwr ac arweinydd band. Fe ymddengys iddo gymryd yn ifanc at chwarae'r corn, gan ddod yn aelod o Gyrn Arian Deulyn cyn iddo symud o'r ardal i weithio fel clerc ym Mhrescot ger Lerpwl ym 1914 - yn bur debyg fel gwaith rhyfel - ac fe ymunodd â band yno.[1]

Cafodd ei eni yn Sir Gaernarfon i Margaret (ganed 1869, Beddgelert) a William Henderson (ganed 1869, Llanrug), Cae Goronwy, plwyf Llandwrog. Chwarelwr oedd y tad, yn fab i John Henderson, tafarnwr a chasglwr tollau a aned yn yr Alban tua 1833 ond a oedd erbyn 1871 yn byw yng Nghaeathro, ac Anne, a hanai o Feddgelert. Erbyn 1881 roedd y teulu gyda'u saith plentyn wedi symud i gyffiniau Rhosgadfan a'r tad bellach yn labrwr mewn chwarel lechi. Bu farw tua1898-9.[2] Ail briododd Margaret ym 1901 (ar ôl marwolaeth William) ym 1901 â Richard Williams, gŵr o Gastell-nedd, Sir Forgannwg, yn 10 Rhes Nantlle. Diddorol yw nodi o Gyfrifiad 1911 fod pawb yn y tŷ yn uniaith Gymraeg.[3]

Dichon ei fod hefyd yn medru canu'n foddhaol gan fod y cofnod canlynol i'w weld yn yr Herald Cymraeg:

ORIG GYDA CHEIRIOG.—Treuliwyd Cymdeithas Baladeulyn, nos Iau, i fwynhau Ceiriog a'i weithiau. Cafwyd papur arno gan Mr. G.W. Francis, a darllenodd lawer o'i weithiau, a chanodd gân o'i eiddo. Hefyd cafwyd caneuon ac adroddiad o weithiau y bardd gan Miss Maggie Powell, Mri Alfred Henderson a Llew Deulyn, ynghyd â chanu dau emyn o'i eiddo dan arweiniad Mr. W. T. Williams.[4]

Yn nes ymlaen dychwelodd i ardal Dyffryn Nantlle. Erbyn 1939, roedd yn byw yn Eryri House, Tal-y-sarn ac yn gweithio fel dilledydd ac yn glerc i Ysgol y Cyngor ym Mhen-y-groes.Erbyn hynny, roedd yn ŵr gweddw, ond ym 1941 fe briododd Alice Gwendolen Nicklin (1902-1973), cyn-wraig Joseph Nicklin (bu'r ddau'n priodi ym 1920 yn Aberystwyth), Roedd Alice yn byw yn 1 Rhes Victoria, Nantlle cyn priodi.[5]

Ym 1947 fe arweiniodd band a oedd yn gyfuniad o fandiau Moeltryfan a Seindorf Dyffryn Nantlle pan gystadlodd yn aflwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn.[6]

Bu farw mor ddiweddar a 4 Mawrth 1979. Erbyn hynny, roedd yn byw yn 1 Rhes Victoria, tŷ ei wraig oedd wedi marw ryw 6 mlynedd ynghynt. Fe adawodd waddol go lew i'w etifeddion, sef dros £17000.[7]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Cymru, 22 Rhagfyr 1914, t.5
  2. Gwybodaeth o gyfrifiadau 1871-1891
  3. Cyfrifiadau 1901 a 1911, Llandwrog.
  4. Herald Cymraeg, 10 Mawrth 1914, t.,5
  5. Rhestr breswylwyr Gwyrfai, 1939
  6. Erthygl Cof y Cwmwd ar fandiau Uwchgwyrfai.
  7. Rhestr o marwolaeth a phrofiannau'r Llywodraeth, 1979