Afon Erch
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:32, 4 Ebrill 2022 gan Cyfaill Eben (Sgwrs | cyfraniadau)
Mae'r Afon Erch, sydd yn llifo tua'r de ac yn cyrraedd y môr yn Aber-erch, Eifionydd, yn ffurfio ffin ddeheuol Uwchgwyrfai am gryn bellter o'i tharddiad ger Brynbychan, Cwm Coryn ac yn llifo o dan Bont-y-gydros, lle nad yw ond yn nant fechan, nes cyrraedd ffin plwyf Carnguwch ac ymuno â llednant yr Erch, sydd yn ffin eto rhwng Uwchgwyrfai a phlwyf Carnguwch.